Ongl

Ongl
Mathgeometric object, two-dimensional object Edit this on Wikidata
Yn cynnwysangular measure Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn geometreg Ewclidaidd, ongl yw'r ffigur a ffurfir gan ddwy linell, o'r enw ochrau'r ongl, sy'n rhannu pwynt terfyn cyffredin, a elwir yn fertig yr ongl.[1] Mae onglau a ffurfiwyd gan ddau belydr (neu ddwy linell) yn gorwedd yn y plân sy'n cynnwys y llinellau. Ffurfir onglau hefyd trwy groesdorri dau blân: gelwir y rhain yn onglau deuhedrol. Mae dwy gromlin croestoriadol yn diffinio ongl hefyd, sef ongl y tangiadau ar y pwynt croestoriad. Er enghraifft, mae'r ongl sfferig a ffurfir gan ddau gylch mawr ar sffêr yn hafal i'r ongl deuhedroll rhwng y plannau sy'n cynnwys y cylchoedd mawr. delwedd gan y cylchdro.[2]

Mae'r ongl hefyd yn fesuriad o gylchdroad, y gymhareb o hyd arc i'w radiws. Y mesur hwn yw'r gymhareb o hyd arc crwn i'w radiws. Yn achos ongl geometrig, mae'r arc wedi'i ganoli yn y fertig ac wedi'i amffinio gan yr ochrau. Yn achos cylchdro, mae'r arc wedi'i ganoli yng nghanol y cylchdro a'i amffinio gan unrhyw bwynt arall a'i d

Mesurir onglau yn aml mewn graddau (°), ond y radian yw'r uned safonol. Ceir 360° mewn un troad cylch, a 2π radian mewn un troad cylch.[3] Gellir mesur onglau gydag onglydd. Defnyddir y llythyren Roeg theta (θ) fel symbol mathemategol am ongl.

  1. Sidorov 2001
  2. Sidorov, L.A. (2001), "Angle", yn Hazewinkel, Michiel, Encyclopedia of Mathematics, Springer, ISBN 978-1-55608-010-4
  3. (Saesneg) Joyce, David E. (2006). Angle measurement. Prifysgol Clark. Adalwyd ar 31 Hydref 2012.

Ongl

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne