Cyfansoddiad cerddorol ac iddo thema grefyddol ar gyfer lleisiau unigol, côr, a cherddorfa yw oratorio[1] neu weithiau mygalaw[2] neu treithalaw.[3] Sail ysgrythurol sydd i destun yr oratorio gan amlaf, a chenir adroddganau i gysylltu rhannau'r cyfansoddiad a chyflwyno'r alawon a'r corawdau.[4]