Osiris | ||||
---|---|---|---|---|
Duw'r ôl-fywyd, bywyd, ac ailgyfodedigaeth | ||||
Osiris, arglwydd y meirw. Mae ei groen gwydd-du yn cynrychioli aileni. | ||||
Enw mewn hieroglyffigau'r Aifft |
| |||
Prif le cwlt | Abydos | |||
Symbol | Y fagl a'r ffust, Corun Atef, plu estrysod, pysgod, rhwyllen mymu | |||
Achyddiaeth | ||||
Rhieni | Geb a Nut | |||
Siblingiaid | Isis, Set, Nephthys, Haroeris | |||
Consort | Isis | |||
Epil | Horus |
Osiris (/oʊˈsaɪər[invalid input: 'ɨ']s/, hefyd Ausir, Asiri, neu Ausar), oedd yn dduw'r Hen Aifft, a gysylltir yn bennaf â'r ôl-fywyd, yr isfyd/annwn, a'r meirw. Fe yw duw'r trawsnewid, ailgyfodedigaeth, ac atgenhedlaeth. Darlunnir ef fel arfer yn ddyn â chreon gwyrdd a barf ffaro, wedi'i wisgo fel mymi ar ei goesau, dan wisgo coron amlwg sydd â dwy bluen estrys fawr ar bob ochr y goron. Mae hefyd yn dal magl a ffust symbolaidd. Ystyrid Osiris ar un adeg yn fab hynaf i dduw'r ddaear Geb, er bod ffynonellau eraill yn dweud mai mab i dduw'r haul, Ra, yr ydoedd,[1] a duwies y nefoedd, Nut, yn ogystal â bod yn frawd a gŵr i Isis, gyda Horus yn fab iddo ond ar ôl i Osiris farw.[1] Cysylltir ef hefyd â'r epithet Khenti-Amentiu, sy'n golygu "Blaen y Gorllewinwyr", cyfeiriad i'w frenhiniaeth yng ngwlad y meirw.[2] Fel rheolwr y meirw, adweinir Osiris weithiau fel "brenin y [bodau] byw": roedd yr hen Eifftwyr yn ystyried y meirw bendigaid yn "fodau byw".[3]