Otidiformes

Ceiliogod y waun
Amrediad amseryddol:
Mïosen - Holosen,
Ceiliog gwaun Kori (Ardeotis kori)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Genera

Heterotetrax
Lissotis
Ardeotis
Tetrax
Houbaropsis
Sypheotides
Lophotis
Otis
Chlamydotis
Eupodotis

Urdd o adar eitha mawr yw'r Otidiformes (Cymraeg: Ceiliogod y waun; Saesneg: Bustards). Mae'r urdd yn cynnwys y floricaniaid a'r korhaaniaid. Gwell ganddynyt dreulio'u hamser ar y tir nag yn yr awyr, ar diroedd agored y steppes, fel arfer. O ran maint, maen nhw oddeutu 40–50 cm. Enw'r teulu yw'r Otididae (yr hen enw arno oedd Otidae).[1]

Mae nhw'n bwyta amrywiaeth o bethau fel dail, hadau ac anifeiliaid bychan (hyd yn oed fertibratau).

Dyma genera'r teulu Otididae:

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
  1. del Hoyo, J. Elliott, A. & Sargatal, J. (editors). (1996) Handbook of the Birds of the World. Volume 3: Hoatzin to Auks. Lynx Edicions. ISBN 84-87334-20-2

Otidiformes

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne