Math | cymuned, dinas fawr, tref goleg, dinas-wladwriaeth |
---|---|
Poblogaeth | 206,496 |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Boston, Iași, Nancy, Handan, Coimbra, Cagliari, Freiburg im Breisgau, Beira, Zadar, Simferopol, Rhydychen |
Nawddsant | Anthony of Padua |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg, Feniseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Padova |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 93.03 km² |
Uwch y môr | 12 metr |
Gerllaw | Bacchiglione |
Yn ffinio gyda | Abano Terme, Albignasego, Cadoneghe, Legnaro, Limena, Noventa Padovana, Ponte San Nicolò, Rubano, Saonara, Selvazzano Dentro, Vigodarzere, Vigonovo, Vigonza, Villafranca Padovana |
Cyfesurynnau | 45.4064°N 11.8778°E |
Cod post | 35121–35143 |
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Padova (Lladin: Patavium; Saesneg: Padua), sy'n brifddinas Talaith Padova yn rhanbarth Veneto. Saif y ddinas ar Afon Bacchiglione, 40 km i'r gorllewin o Fenis a 29 km i'r de-ddwyrain o Vicenza.
Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 206,192.[1]
Mae traddodiad ei bod wedi ei sefydlu yn 1183 CC gan y tywysog Antenor o Gaerdroea. Daeth yn municipium Rhufeinig yn 45 CC neu 43 CC.
Yn 601, gwrthryfelodd y ddinas yn erbyn y Lombardiaid, ac wedi gwarchae o 12 mlynedd, cipiwyd a llosgwyd hi gan Agilulf, brenin y Lombardiaid. Yn 899 anrheithiwyd Padova gan yr Hwngariaid. Sefydlwyd y brifysgol, y drydedd yn yr Eidal, yn 1222. Daeth dan reolaeth Fenis yn 1405, a pharhaodd hyn hyd 1797 heblaw am gyfnodau byr.
Ymhlith atyniadau Padova mae Capel Scrovegni (Eidaleg: Cappella degli Scrovegni), gyda chyfres o luniau fresco gan Giotto. Gardd Fotanegol Padova, Orto Botanico di Padova, a sefydlwyd yn 1545, yw'r hynaf yn y byd, ac mae wedi ei henwi'n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.