Paleognaths Amrediad amseryddol: Cretasaidd hwyr – Holosen, | |
---|---|
Casowari'r De (Casuarius casuarius) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Inffradosbarth: | |
Urdd | |
Un o'r ddau ddosbarth o adar sy'n fyw heddiw yw'r Palaeognathae (Groeg: ""hen" a "gên"), neu'r paleognathau, yr ail yw'r Neognathae. Gyda'i gilydd mae'r ddau grŵp yma'n creu'r cytras (clade) a elwir yn Neornithes.
O fewn y dosbarth yma o adar, sef y Palaeognathae, ceir pum cangen o adar nad ydynt yn medru hedfan a dwy gytras sydd bellach wedi dod i ben. Ceir hefyd y tinamou, sy'n medru hedfan.[1][2] Ceir 47 rhywogaeth o tinamous, 5 ciwi (Apteryx), 3 cassowary (Casuarius), 1 emiw (Dromaius) (ac un arall a ddifawyd sawl mileniwm yn ôl), 2 Rhea a 2 rywogaeth o estrys.[3] Dengys gwaith ymchwil diweddar fod y paleognathiaid yn fonoffyletig (grŵp sy'n ffurfio cytras; sef hen rywogaeth a'i hynafiaid), ond mae'r hen drefn o ddosbarthu adar o ran eu gallu i hedfan yn gwbwl anghywir.[2][4][4]
Ceir tri prif grŵp sydd gwbwl ar wahân: Lithornithiformes, Dinornithiformes (moaiaid) a'r Aepyornithiformes (adar eliffantog), ac mae'r tri hyn, yn bendant yn aelodau o'r Palaeognathae.
Tarddiad y gair yw "hen ên", sy'n cyfeirio at ysgerbwd y palate, a ddisgrifir yn hŷn a mwy ymlusgol nag adar eraill.[5] Wedi dweud hyn, nid fosiliau byw mohonynt gan fod eu genynau'n para i esblygu a newid yn y DNA. Ceir dryn anghytundeb yn y byd gwyddonol, fodd bynnag, o ran eu hesblygiad.[6]