Cytundeb a fwriedir rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America yw TTIP neu Partneriaeth Masnachu a Buddsoddi Trawsiwerydd (Saesneg: Transatlantic Trade and Investment Partnership. Mae'r rheiny sydd y tu ôl i'r cytundeb yn hawlio y gwnaiff wella'r hinsawdd diwydiannol a masnachol ar bob ochr,[1] ond mynn eraill y gwnaiff gynyddu pwerau corfforaethau mawr ar draul pobl gyffredin a hawliau gwledydd bychain i reoli eu hunain.[2]
Barn UDA yw fod y cytundeb hwn yn dilyn esiampl cytundeb TTIP (Traws-Gefnfor Tawel, neu Trans-Pacific Partnership.[3] Yn Ionawr 2015 cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd fras olwg dros y cytundeb.[4]
Y bwriad gwreiddiol oedd arwyddo'r cytundeb cyn diwedd 2014,[5][6] ond newidiwyd y dyddiad hwn i rywbryd yn ystod 2015.