Paul von Hindenburg | |
---|---|
Ganwyd | Paul Ludwig Hans Anton von Beneckendorff und von Hindenburg 2 Hydref 1847 6 Podgórna Street in Poznań |
Bu farw | 2 Awst 1934 Ogrodzieniec |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Teyrnas Prwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol, milwr |
Swydd | Arlwywydd yr Almaen |
Tad | Hans Robert Ludwig von Beneckendorff und von Hindenburg |
Mam | Luise Schwickart |
Priod | Gertrud Wilhelmine von Hindenburg |
Plant | Oskar von Hindenburg, Irmengard Pauline Louise Gertrud von Brockhusen |
Llinach | von Beneckendorff und von Hindenburg |
Gwobr/au | Pour le Mérite, Marchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Uwch Groes Urdd Maria Theresa, Military Merit Cross I. Class, Urdd yr Eryr Du, Star of the Grand Cross of the Iron Cross, Large Military Merit Medal, Military Order of Max Joseph, Honorary doctor of the Dresden University of Technology, honorary citizen of Sankt Andreasberg, honorary citizen of Paderborn, honorary doctorate of the University of Graz, honorary citizen of Bonn, Dinesydd anrhydeddus Berlin, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Königsberg, honorary doctor of the University of Bonn, honorary doctor of the University of Wrocław, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Order of Maria Theresa I, honorary citizen of Nuremberg, honorary citizen of Coburg, dinasyddiaeth anrhydeddus, Iron Cross 1st Class, Iron Cross 2nd Class, Grand Cross of the Iron Cross, dinasyddiaeth anrhydeddus, Grand Cross of the Order of the Cross of Liberty, Imtiyaz Medal |
llofnod | |
Cadlywydd o'r Almaen ac Arlywydd yr Almaen oedd Paul Ludwig Hans Anton von Beneckendorff und von Hindenburg, a adwaenid fel Paul von Hindenburg (2 Hydref 1847 – 2 Awst 1934).
Ganed Hindenburg yn Poznań, Gwlad Pwyl, yr adeg honno Posen yn Nheyrnas Prwsia. Daeth yn swyddog ym myddin Prwsia, gan ymddeol yn 1911. Dychwelodd i'r fyddin ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, a daeth i sylw byd-eang pan enillodd fuddugoliaeth dros fyddin Rwsia ym Mrwydr Tannenberg yn 1914. O 1916 ymlaen, oedd ef pennaeth y staff cyffredinol, gydag Erich Ludendorff yn ddirpwy iddo.
Ymddeolodd eto yn 1919. Yn 1925, etholwyd ef yn ail Arlwydd yr Almaen. Erbyn etholiad 1932, roedd yn 84 oed a'i iechyd yn dirywio, ond perswadiwyd ef i gymeryd rhan yn etholiad arlywyddol y flwyddyn honno, gan y credid mai ef yn unig a allai guro Adolf Hitler. Enillodd Hindenburg yr etholiad, ond yn Ionawr 1933, apwyntiodd Hilter yn Ganghellor yr Almaen.
Wedi i Hindenburg farw, cyhoeddodd Hitler ei fod yn gadael y swydd o Arlywydd yn wag, a chyhoeddodd ei hyn yn arweinydd yr Almaen fel Führer und Reichskanzler.