Math | Lagŵn, harbwr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Honolulu County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 21.36194°N 157.95361°W |
Gwleidyddiaeth | |
Mae Pearl Harbor yn harbwr ar ynys Oʻahu, Hawaii, i'r gorllewin o Honolulu. Mae rhannau helaeth o'r harbwr a'r ardal gerllaw yn ganolfan lyngesol dyfroedd dwfn sy'n perthyn i Lynges yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn bencadlys i Lynges Cefnfor Tawel yr Unol Daleithiau. Pan ymosodwyd ar Pearl Harbor gan Ymerodraeth Japan ar y 7fed o Ragfyr, 1941, daeth â'r Unol Daleithiau i mewn i'r Ail Ryfel Byd.