Pelecaniformes

Pelecaniformes
Amrediad amseryddol:
Cretasiaidd hwyr –presennol
Pelican brown America
(Pelecanus occidentalis)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Pelecaniformes
Teuluoedd

Urdd o adar canolig a mawr eu maint yw'r Pelecaniformes (Cymraeg: yr Huganod) a geir yn fydeang. Arferid diffinio'r Huganod fel yr adar gyda phedwar bys gweog, ond bellach diystyrir hyn. Oherwydd hyn, arferid eu galw'n totipalmates neu yn steganopodes.

Mae gan y rhan fwyaf o'r urdd ran moel ar eu gwddf a nostrils sydd wedi esblygu yn holltau diwerth, sy'n eu gorfodi i anadlu drwy eu cegau. Maent yn bwyta pysgod, môr-lawes (squid) ac anifeiliaid dyfrol eraill. Maent yn nythu mewn cymuned ond cadwant at yr un cymar, am oes. Mae'r cyw yn deor yn noeth, gyda chroen yn unig, ac yn hollol diamddiffyn.[1]

Dosbarthir yr Huganod yn yr un grwp â'r Ciconia pig esgid (Balaenicipitidae), Pen morthwyl (Scopidae), y Threskiornithidae (Threskiornithidae) a'r Crehyrod (Ardeidae).[2]

Pelecaniformes

Threskiornithidae




Ardeidae




Scopidae




Balaenicipitidae



Pelecanidae






Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
  1. Hedges, S.Blair; Sibley, Charles G (1994). "Molecules vs. morphology in avian evolution: the case of the "pelecaniform" birds". PNAS 91 (21): 9861–65. doi:10.1073/pnas.91.21.9861.
  2. International Ornithological Committee (2 January 2012). "Ibises to Pelicans & Cormorants". IOC World Bird Names: Version 2.11. WorldBirdNames.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-01. Cyrchwyd 30 April 2012.

Pelecaniformes

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne