Rhan o gerdd ydyw pennill (sy'n enw gwrywaidd: "y pennill hwn"), sef nifer o linellau o farddoniaeth, fel rheol wedi eu trefnu mewn patrwm o fydr ac odl. Defnyddir y gair yn anaml, bellach, am chwarel o wydr ac arferid ei ddefnyddio am das neu fwdwl o wair.
Ceir casgliad o'r Hen benillion Cymraeg traddodiadol mewn cyfrol a olygwyd gan T. H. Parry-Williams o'r enw Hen Benillion, sy'n cynnwys y dywediad:
Cân di bennill fwyn i'th nain
A chân dy nain i tithe.