Math | pentref |
---|---|
Poblogaeth | 5,021 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanilltud Faerdref |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5699°N 3.3216°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mick Antoniw (Llafur) |
AS/au y DU | Alex Davies-Jones (Llafur) |
Pentref bychan yng nghymuned Llanilltud Faerdref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, ydy Pentre'r Eglwys (Saesneg: Church Village). Saif ger Pontypridd.
Yn 2011, roedd 2,501 (17.1%) o boblogaeth (3 oed a throsodd) y Gymuned yn gallu siarad Cymraeg.[1]
Aiff hanes y gymuned yn ôl i ganol y 19g pan nad oedd ond cartref saer coed a dau adeilad neu dŷ gwag yno, yn ôl cyfrifiad 1841. Tyfodd y pentref yn ystod y deng mlynedd canlynol ond eto, gan mai bach iawn oedd, dan enw pentref cyfagos Cross Inn y'i cofnodwyd yng nghyfrifiad 1851, pan oedd 91 o bobl yn byw yno mewn 14 cartref.[2]
Cynhaliwyd ysgol mewn stablau ger fferm Tir Bach cyn symyd i ystafell hir y tu ôl i Tafarn y Groes yng nghanol y pentref. Roedd yr ystafell hefyd yn gartref i'r Bedyddwyr Cymreig. Adeiladwyd Capel yn ddiweddarach ym 1854 tua milltir i ffwrdd yng Ngwaun y Celyn. Erbyn cyfrifiad 1861, roedd tuag 11 o bobl yn byw mewn 22 cartref.[2] Erbyn heddiw mae Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg yn y pentref. Agorwyd Llyfrgell yno ar 1 Ebrill 1965; symudwyd hi ynghyd ag Ysgol Gyfun Rhydfelen i adeilad newydd ar hen safle'r ysgol gynradd[3] ym Mhentre'r Eglwys ac agorwyd hi ar 4 Medi 2006. Mae cynlluniau i adeiladu miloedd o dai newydd yn y pentref. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer ffordd-osgoi Penter'r Eglwys, mae hyn wedi bod ar y gweill ers 2006 ond nid oes gwaith wedi dechrau esioes (2007).[4][5]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Alex Davies-Jones (Llafur).[6][7]