Pentref

Mae pentre yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Gweler hefyd Pentre (gwahaniaethu).
Pentref yn Jafa

Grŵp o dai, ac adeiladau eraill efallai, sy'n ffurfio uned lai na thref, yn enwedig, ond nid o reidrwydd, mewn ardal wledig yw pentref.[1]

Yng Nghymru ceir gwahaniaeth hanesyddol rhwng pentref fel y cyfryw a llan. Casgliad cryno o anneddau heb eglwys oedd pentref, yn aml mor fychan fel mai hamlet (pentref bychan iawn) fyddai'r term amdano heddiw.

Pentref anghysbell yn Benin

Mewn rhai gwledydd arferir y term 'pentref' neu air tebyg am ardaloedd bychain arbennig mewn dinasoedd, e.e. Greenwich Village yn Ninas Efrog Newydd.

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 2762.

Pentref

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne