Persephone

Persephone a Hades; llun o gerflun yn y Fatican

Duwies ym mytholeg Roeg oedd Persephone (Groeg: Περσεφόνη, Persephonē); ffurf Homerig Περσεφονηία, Persephonēia. Cyfeirir ati hefyd fel Core (Κόρη, Korē, "merch", "morwyn"). Yn y traddodiad Rhufeinig, gelwid hi yn Proserpina. Roedd yn ferch i Demeter, duwies grawn a thyfiant; yn ôl rhai traddodiadau, Zeus oedd ei thad.

Roedd Dirgelion Eleusis, a gynhelid tua mis Hydref, yn gysylltiedig â hi, yn arbennig y chwedl amdani hi a'i mam. Roedd Persephone wedi ei chipio gan Hades, duw yr isfyd. Wedi i Demeter golli ei merch, nid oedd dim yn tyfu ar y ddaear, a bu raid i Hades adael i Persephone ddychwelyd at ei mam. Fodd bynnag, cyn iddi adael, fe'i twyllodd i fwyta chwech hedyn pomegranad, ac o'r herwydd, roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i Hades am chwe mis o bob blwyddyn. Yn ystod y chwe mis pan oedd Persephone gyda'i mam, roedd planhigion yn tyfu ar y ddaear; yn ystod y chwe mis pan oedd yn Hades nid oedd tyfiant; felly y cafwyd y tymhorau.

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Persephone

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne