Peter Higgs | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mai 1929 Newcastle upon Tyne |
Bu farw | 8 Ebrill 2024 Caeredin |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd damcaniaethol, ymchwilydd, particle physicist, ffisegydd, academydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Higgs boson |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Medal Hughes, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Rutherford Medal and Prize, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg, James Scott Prize Lectureship, High Energy and Particle Physics Prize, IOP Dirac Medal, honorary doctor of the University of Bristol, doethur anrhydeddus Prifysgol Caeredin, Honorary Fellow of the Institute of Physics, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Gwobr Ffiseg Wolfe, Medal Oskar Klein, Gwobr Sakurai, honorary doctor of University College London, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, honorary doctor of Heriot-Watt University, Cydymaith Anrhydeddus, Clarivate Citation Laureates, Edinburgh Medal, Gwobr Tywysoges Asturias am Umchwyl Technegol a Gwyddonol, Gwobr Ffiseg Nobel, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Durham, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Manceinion, citizen of Edinburgh, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Medal Copley, honorary doctor of Queen's University Belfast, honorary doctorate of Trinity College, Dublin |
Gwefan | https://www.ph.ed.ac.uk/higgs |
llofnod | |
Ffisegydd damcaniaethol oedd Peter Ware Higgs CH FRS FRSE HonFinstP (29 Mai 1929 – 8 Ebrill 2024). O Loegr yn wreiddiol, roedd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caeredin,[1] ac enillodd Wobr Nobel am ei waith ar fàs gronynnau isatomig.[2][3]
Yn y 1960au, cynigiodd Higgs y gallai cymesuredd toredig mewn theori electrowan egluro tarddiad màs gronynnau elfennol yn gyffredinol a bosonau W a Z yn benodol. Mae'r mecanwaith Higgs hwn, fel y'i gelwir, a gynigiwyd hefyd gan sawl ffisegydd heblaw Higgs tua'r un pryd, yn rhagweld bodolaeth gronyn newydd, y boson Higgs a daeth ei ddarganfyddiad yn un o ymchwiliadau mawr y byd ffiseg.[4][5] Ar 4 Gorffennaf 2012, cyhoeddodd CERN fod y boson wedi'i ddarganfod yn y Gwrthdrawydd Hadronnau Mawr.[6] Mae mecanwaith Higgs yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel elfen bwysig yn y Model Safonol o ffiseg gronynnau, a hebddo ni fyddai gan rai gronynnau unrhyw fàs.
Anrhydeddwyd Higgs â nifer o wobrau i gydnabod ei waith, gan gynnwys Medal Hughes 1981 gan y Gymdeithas Frenhinol; Medal Rutherford 1984 gan y Sefydliad Ffiseg; Medal Dirac 1997 a Gwobr am gyfraniadau eithriadol i ffiseg ddamcaniaethol gan y Sefydliad Ffiseg; Gwobr Egni Uchel a Ffiseg Gronynnau 1997 gan Gymdeithas Ffisegol Ewrop; Gwobr Wolf mewn Ffiseg 2004; medal Darlith Goffa Oskar Klein 2009 gan Academi Frenhinol y Gwyddorau Sweden; Gwobr JJ Sakurai Cymdeithas Ffisegol America 2010 ar gyfer Ffiseg Gronynnau Damcaniaethol; a Medal Higgs unigryw gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin yn 2012. Fe wnaeth darganfyddiad y boson Higgs ysgogi ei gyd-ffisegydd Stephen Hawking i nodi ei fod yn meddwl y dylai Higgs dderbyn y Wobr Nobel mewn Ffiseg am ei waith,[7] ac fe wnaeth o'r diwedd, ar y cyd â François Englert yn 2013. Penodwyd Higgs i Urdd y Cymdeithion Anrhydedd yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd y Deyrnas Unedig yn 2013[8] ac yn 2015 dyfarnodd y Gymdeithas Frenhinol Fedal Copley iddo, gwobr wyddonol hynaf y byd.[9]