Plinius yr Ieuengaf | |
---|---|
Ganwyd | c. 61 Como |
Bu farw | c. 113 Bithynia |
Man preswyl | Villa Commedia, Lierna, Llyn Como |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd, bardd, cyfreithiwr, hanesydd, person milwrol, swyddog, cyfreithegwr, gwas sifil |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, tribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, quaestor, consul suffectus, Conswl Rhufeinig |
Adnabyddus am | Epistulae by Pliny the Younger |
Tad | Unknown, Plinius yr Hynaf |
Mam | Plinia Marcella |
Priod | llysferch Veccius Proculus, merch Pompeia Celerina, Calpurnia |
Perthnasau | Plinius yr Hynaf |
Awdur, cyfreithiwr ac athronydd Rhufeinig oedd Gaius neu Caius Plinius Caecilius Secundus, ganwyd fel Gaius neu Caius Plinius Caecilius (61/63 - tua 113), mwy adnabyddus fel Plinius yr Ieuengaf.
Ganed ef yn Como yng ngogledd yr Eidal. Roedd yn nai ar ochr ei fam i Plinius yr Hynaf. Bu farw ei dad pan oedd yn ieuanc, a rhoddwyd ef dan ofal Lucius Verginius Rufus. Teithiodd i Rufain, lle bu'n dysgu rhethreg oddi wrth Quintilian a Nicetes Sacerdos o Smyrna. Pan fu farw ei ewythr, Plinius yr Hynaf, yn ystod ffrwydrad Vesuvius yn 79, gadawodd ei stad i Plinius yr Ieuengaf yn ei ewyllys.
Daliodd Plinius nifer o swyddi pwysig; daeth yn gyfaill i'r hanesydd Tacitus a bu Suetonius yn gweithio iddo. Priododd dair gwaith. Credir iddo farw'n sydyn yn Bithynia-Pontus, tua 112 neu 113, pan oedd yn legatus Augusti yno.