Pobol y Cwm

Pobol y Cwm
Genre Opera sebon
Serennu Cast
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 20 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Cymru (1974-1982)
S4C (1982-)
Rhediad cyntaf yn 16 Hydref 1974
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd Cymru yw Pobol y Cwm. Dyma'r opera sebon mwyaf hirhoedlog a gynhyrchir gan y BBC. Crewyd y gyfres gan y dramodydd Gwenlyn Parry a'r cynhyrchydd John Hefin.[1] Ar wahân i rygbi, dyma'r rhaglen mwyaf poblogaidd ar S4C.[2]

Fe ddechreuodd y gyfres ar 16 Hydref 1974;[3] felly dim ond Coronation Street ac Emmerdale sydd wedi parhau yn hirach na Pobol y Cwm ar y teledu ym Mhrydain. Yn y dyddiau cynnar fe'i ddarlledwyd y diwrnod canlynol am 12:25 ar rwydwaith BBC 1.[4] Wedi i S4C gael ei sefydlu, trosglwyddodd y gyfres i'r sianel honno a bellach gyda pum pennod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn. Cafodd hynny ei leihau i dri pennod yr wythnos wedi pandemig COVID.[5]

Mae S4C yn dangos Pobol y Cwm fel arfer o nos Lun i nos Wener am 19:30 neu 20:00, heblaw yn ystod Eisteddfodau neu lle darlledir chwaraeon. Maent yn ail-ddarlledu 'Omnibws' o holl benodau'r wythnos gydag isdeitlau yn Saesneg ar y sgrin ar nos Sul am 17:30.

Mae'r rhaglen wedi bod yn feithrinfa i nifer o actorion a aeth ymlaen i adnabyddiaeth rhyngwladol, yn cynnwys Ioan Gruffudd a Iwan Rheon. Mae nifer o enwogion o actorion gwadd wedi ymddangos yn y gyfres hefyd, yn cynnwys Rhys Meirion, Ray Gravell, Michael Aspel, Giant Haystacks ac El Bandito, Dave Brailsford, Russell Grant, Michael Sheen a Ruth Jones.[6]

Yn Hydref 2024, dathlwyd 50 mlynedd o'r gyfres gyda nifer o rhaglenni arbennig i nodi'r achlysur. Yn ogystal agorwyd y set i'r cyhoedd gyda theithiau ar gael o gwmpas y stiwdios a'r brif stryd.[7]

  1.  Pobol y Cwm (1974-). BFI Online. Adalwyd ar 17 Mawrth 2017.
  2. S4C niferoedd gwylio
  3. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 688. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  4. Genome - Rhestr rhaglenni y Radio Times
  5. "Dim ond tair pennod o Pobol y Cwm yr wythnos fydd yna yn lle pedair o fis Tachwedd ymlaen". Golwg360. 2021-09-18. Cyrchwyd 2024-10-15.
  6. Michael Sheen ac enwogion eraill Pobol y Cwm , BBC Cymru Fyw, 3 Mehefin 2019. Cyrchwyd ar 4 Mehefin 2019.
  7. Sian (2024-09-09). "Teithiau arbennig Pobol y Cwm i ddathlu 50 mlynedd". Croeso Caerdydd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-15.

Pobol y Cwm

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne