República Portuguesa | |
Arwyddair | Arfordir Gorllewin Ewrop |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, pŵer trefedigaethol |
Enwyd ar ôl | Portus Cale |
Prifddinas | Lisbon |
Poblogaeth | 10,347,892 |
Sefydlwyd | |
Anthem | A Portuguesa |
Pennaeth llywodraeth | António Costa |
Cylchfa amser | UTC+00:00 |
Nawddsant | Siôr |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Portiwgaleg, Mirandeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | South-West Europe, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd |
Arwynebedd | 92,225 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Sbaen |
Cyfesurynnau | 39°N 9°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Portugal |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad y Weriniaeth |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Portiwgal |
Pennaeth y wladwriaeth | Marcelo Rebelo de Sousa |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Portiwgal |
Pennaeth y Llywodraeth | António Costa |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $253,983 million, $251,945 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 14 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.21 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.866 |
Gwlad a gweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw'r Weriniaeth Bortiwgalaidd neu Phortiwgal (Portiwgaleg: Portugal) (Portiwgaleg: República Portuguesa). Mae hi'n gorwedd rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd ac mae'r ynysoedd Azores a Madeira hefyd yn rhan o'r wlad. Prifddinas Portiwgal yw Lisbon. Fe'i lleolir ar Benrhyn Iberia, yn Ne-orllewin Ewrop. Hi yw'r wladwriaeth sofran fwyaf gorllewinol ar dir mawr Ewrop, wedi'i ffinio â'r gorllewin a'r de gan Gefnfor yr Iwerydd ac i'r gogledd a'r dwyrain gan Sbaen, yr unig wlad i gael ffin tir â Phortiwgal. Mae tiriogaeth Portiwgal hefyd yn cynnwys archipelagos yr Iwerydd yn yr Azores a Madeira, y ddau yn rhanbarthau ymreolaethol â'u llywodraethau rhanbarthol eu hunain. Portiwgaleg yw'r iaith swyddogol a chenedlaethol. Lisbon yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Portiwgal yw'r genedl-wladwriaeth hynaf ar Benrhyn Iberia ac un o'r hynaf yn Ewrop, ac mae ei thiriogaeth wedi cael ei setlo, ei goresgyn a'i hymladd yn barhaus ers y cyfnod cynhanesyddol. Pobl gyn-Geltaidd a Cheltaidd oedd yn byw yno, ymwelodd y Phoeniciaid, Carthaginiaid, a'r Groegiaid Hynafol â nhw, a chawsant eu rheoli gan y Rhufeiniaid, a ddilynwyd hynny gan oresgyniadau pobloedd Germanaidd, y Suebi a'r Fisigothiaid. Ar ôl goresgyniad y Penrhyn Iberaidd gan y Mwriaid, daeth y rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn rhan o Al-Andalus. Sefydlwyd Portiwgal fel gwlad yn ystod cyfnod y Reconquista Cristnogol cynnar, sef cyfnod o 750 mlynedd pan ad-enillodd y Cristionogion y rhannau o Benrhyn Iberia a oedd wedi dod dan lywodraeth Islamaidd. Fe'i sefydlwyd ym 868, ac enillodd Sir Portiwgal amlygrwydd ar ôl Brwydr São Mamede (1128). Cyhoeddwyd Teyrnas Portiwgal yn ddiweddarach yn dilyn Brwydr Ourique (1139), a chydnabuwyd annibyniaeth oddi wrth León gan Gytundeb Zamora (1143).[1]
Yn y 15fed a'r 16g, sefydlodd Portiwgal yr ymerodraeth forwrol a masnachol fyd-eang gyntaf, gan ddod yn un o brif bwerau economaidd, gwleidyddol a milwrol y byd.[2] Yn ystod y cyfnod hwn, y cyfeirir ato heddiw fel Oes y Darganfod (neu neu Oes Aur Fforio), arloesodd y fforwyr Portiwgalaidd mewn mordwyaeth gan ddarganfod y tir a fyddai’n cael ei enwi'n Brasil (1500). Yn ystod yr amser hwn ehangodd yr ymerodraeth Bortiwgalaidd gydag ymgyrchoedd milwrol yn Asia. Fodd bynnag, profodd ddigwyddiadau negyddol fel daeargryn Lisbon 1755, Rhyfeloedd Napoleon, ac annibyniaeth Brasil (1822).[3] Parhaodd rhyfel cartref rhwng y rhyddfrydwyr a'r ceidwadwyr ym Mhortiwgal dros olyniaeth frenhinol rhwng 1828 a 1834.
Ar ôl i chwyldro 1910 ddiorseddu’r frenhiniaeth, sefydlwyd Gweriniaeth Gyntaf Portiwgal, gweriniaeth ddemocrataidd ond ansefydlog, a gafodd ei disodli’n ddiweddarach gan drefn awdurdodol yr Estado Novo. Adferwyd democratiaeth ar ôl Chwyldro'r Penigan (<i>carnation</i>) yn 1974, gan ddod â Rhyfel Trefedigaethol Portiwgal i ben. Yn fuan wedi hynny, rhoddwyd annibyniaeth i bron ei holl diriogaethau tramor. Roedd trosglwyddo Macau i China (1999) yn nodi diwedd yr hyn y gellir ei ystyried yn un o'r ymerodraethau trefedigaethol hiraf mewn hanes.
Mae wedi gadael dylanwad diwylliannol, pensaernïol diwylliant a phensaerniaeth Portiwgal wedi ymledu drwy'r byd, fel ag y mae ei hiaith hefyd gyda tua 250 miliwn o siaradwyr Portiwgaleg. Mae'n wlad ddatblygedig gydag economi ddatblygedig a safonau byw uchel.[4][5][6] Yn ogystal, mae'n uchel iawn ar restr gwledydd heddychlon y byd, democratiaeth,[7] rhyddid y wasg, sefydlogrwydd, cynnydd cymdeithasol a ffyniant. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Schengen a Chyngor Ewrop (CoE), ac mae'n un o aelodau sefydlu NATO, ardal yr ewro a'r OECD.