Prifysgol Metropolitan Caerdydd | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Arwyddair | Gorau meddiant gwybodaeth | ||||||||||||
Sefydlwyd | 1865 (fel Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd) 1976 (cyfunwyd â thri choleg arall i sefydlu Athrofa Addysg Uwch Morgannwg) | ||||||||||||
Math | Cyhoeddus | ||||||||||||
Canghellor | Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru | ||||||||||||
Is-ganghellor | Yr athro Antony J Chapman[1] | ||||||||||||
Myfyrwyr | 12,000 | ||||||||||||
Myfyrwyr eraill | 74 | ||||||||||||
Lleoliad | Caerdydd, Cymru | ||||||||||||
Campws | Trefol | ||||||||||||
Lliwiau | |||||||||||||
Tadogaethau | Cynghrair Brifysgolion Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad | ||||||||||||
Gwefan | www.cardiffmet.ac.uk/cymraeg/Pages/default.aspx |
Prifysgol fodern yng Nghaerdydd, Cymru yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Saesneg: Cardiff Metropolitan University) (adnabuwyd yn flaenorol fel UWIC). Mae'n gweithredu o ddwy campws yng Nghaerdydd: Llandaf ar Rodfa'r Gorllewin, Cyncoed. Mae'n gwasanaethu dros 12,000 o fyfyrwyr. Adnabuwyd fel Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Cadarnhawyd ar 11 Hydref 2011 y byddai'r sefydliad yn newid ei enw i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn unol â'r ymgais llwyddiannus i'r Cyfrin Gyngor am newid enw a gyflwynwyd y llynedd. Daeth yr enw i rym ar 1 Tachwedd 2011.[2]
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal cyrsiau mewn celf a dylunio, peirianneg, y gwyddorau, busnes a thechnoleg gwybodaeth, hyfforddiant athrawon, dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, iechyd, chwaraeon, twristiaeth a hamdden. Maent yn gwasanaethu israddedigion ac ôl-raddedigion yn llawn ac yn rhan amser, yn ogystal â chynnig nifer o gyfleodd ymchwil.