Math | priordy, heneb gofrestredig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN027 |
Priordy Awstinaidd yn dyddio o ddechrau'r 13g yw Priordy Penmon, ger Llangoed, Ynys Môn ond mae ar safle llawer hŷn na hyn; cyfeiriad grid SH630807.
Gerllaw'r priordy, ceir Ffynnon Seiriol ac olion tŷ bychan crwn a elwir yn Cell y Meudwy. Cysylltir y rhain a Sant Seiriol, o'r 6g. Ceir cofnod o Abaty Dinas Basing sy'n awgrymu bod Maelgwn Gwynedd wedi noddi mynachlog yma yn y 540au. Yn sicr, roedd clas yma o gyfnod cynnar, a chofnodir iddo gael ei ddinistrio gan y Llychlynwyr yn 917.
Parhaodd y fynachlog i gael nawdd tywysogion Gwynedd, ac adeiladwyd rhan o'r eglwys bresennol gyda chymorth Owain Gwynedd tua chanol y 12g. Yn gynnar yn y 13g, anogodd Llywelyn Fawr y clas i ddod dan reolaeth yr urdd Awstinaidd. Dyddia rhan o'r eglwys a'r adeilad tri llawr oedd yn cynnwys y ffreutur a'r man cysgu o'r cyfnod hwn. Rhoddodd Llywelyn lawer o dir a breintiau i'r priordy. Roedd Ynys Seiriol yn eiddo i'r priordy.
Diddymwyd y priordy yn 1537, ac fe'i rhoddwyd i deulu Bulkeley, Baron Hill, Biwmares. Mae eglwys y priordy, sydd wedi ei chysegru i Sant Seiriol, yn parhau i fod yn eglwys y plwyf.