Math | talaith Awstralia |
---|---|
Enwyd ar ôl | Fictoria, brenhines y Deyrnas Unedig |
Prifddinas | Brisbane |
Poblogaeth | 5,160,023 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Steven Miles |
Cylchfa amser | UTC+10:00, Australia/Brisbane |
Gefeilldref/i | Shanghai, Osaka, Saitama |
Daearyddiaeth | |
Sir | Awstralia |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 1,729,742 km² |
Uwch y môr | 744 metr |
Yn ffinio gyda | De Awstralia, De Cymru Newydd, Tiriogaeth y Gogledd |
Cyfesurynnau | 20°S 143°E |
AU-QLD | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Queensland Government |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Queensland |
Pennaeth y wladwriaeth | Jeannette Young |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Premier of Queensland |
Pennaeth y Llywodraeth | Steven Miles |
Ail dalaith fwyaf Awstralia (o ran ei harwynebedd) yw Queensland, a thrydedd o ran poblogaeth. Brisbane yw prifddinas y dalaith. Lleolir Queensland yng ngogledd-ddwyrain y wlad, ac mae'n ffinio gyda Thiriogaeth y Gogledd i'r gorllewin, De Awstralia i'r de-orllewin a De Cymru Newydd i’r de; i'r dwyrain mae arfordir y Môr Cwrel a'r Cefnfor Tawel. Mae Culfor Torres i'r gogledd a lleolir Papua Gini Newydd llai na 200 cilometr o Queensland.[1][2]
Cyn dyfodiad y dyn gwyn, roedd yma Frodorion Awstralaidd a wladychodd Awstralia a Tasmania o leiaf 50,000 CP.
Mae arwynebedd Queensland yn 1,852,642 km sg (715,309 milltir sg) a'i boblogaeth yn 411,106 (2023)[3], gyda'r rhan fwyaf o bobl yn byw yn y de-ddwyrain. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yn y wladwriaeth yw Brisbane, trydedd ddinas fwyaf Awstralia. Yn aml, cyfeirir ato fel "Gwladwriaeth yr Haul" ("Sunshine State"). Yn Queensland ceir 10 allan o 30 o ddinasoedd mwyaf Awstralia a hi yw 3edd economi fwyaf y wlad. Mae twristiaeth yn y wladwriaeth, yn bennaf oherwydd ei hinsawdd drofannol gynnes, yn ddiwydiant mawr.
|deadurl=
ignored (help)