Rainier III, tywysog Monaco

Rainier III, tywysog Monaco
GanwydRainier Louis Henri Maxence Bertrand Grimaldi Edit this on Wikidata
31 Mai 1923 Edit this on Wikidata
Monaco Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 2005 Edit this on Wikidata
Monaco Edit this on Wikidata
Man preswylPalas Tywysog Monaco Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMonaco Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethteyrn, gwleidydd, pendefig Edit this on Wikidata
SwyddTywysog Monaco Edit this on Wikidata
TadTywysog Pierre de Polignac Edit this on Wikidata
MamY Dywysoges Charlotte, Duges Valentinois Edit this on Wikidata
PriodGrace Kelly Edit this on Wikidata
PlantCaroline, tywysoges Hanover, Albert II, tywysog Monaco, Stéphanie o Fonaco Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Grimaldi Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Croix de guerre 1939–1945, Medal y Seren Efydd, Urdd Aur yr Olympiad, Urdd y Sbardyn Aur, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Manuel Amador Guerrero, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, Urdd y Gwaredwr Edit this on Wikidata

Tywysog Monaco o 9 Mai 1949 hyd ei farwolaeth oedd Rainier III (Rainier Louis Henri Maxence Bertrand de Grimaldi) (31 Mai 19236 Ebrill 2005).[1][2] Yn ystod ei deyrnasiad, ymdrechodd Rainier i amrywiaethu economi Monaco oedd yn ddibynnol ar gamblo, gan hybu masnach a thwristiaeth yn y dywysogaeth, ac enillodd y llysenw "yr adeiladwr-dywysog".[3][4] Parhaodd statws Monaco yn llygad y byd fel "lle chwarae'r cyfoethog" ac roedd papurau newydd yn aml yn argraffu clecs am y teulu brenhinol, ond llwyddodd Rainier ar y cyfan i ddatblygu economi ei wlad ac ennill hoffter ei thrigolion.[5][6]

Roedd yn briod i'r actores Grace Kelly o 1956 hyd ei marwolaeth ym 1982, a chafodd tri phlentyn: y Dywysoges Caroline Louise Marguerite, y Tywysog Albert (Tywysog Monaco ers marwolaeth ei dad), a'r Dywysoges Stéphanie Marie Elisabeth.

Bu farw yn yr un wythnos â'r Pab Ioan Pawl II. Cyn ei farwolaeth, Rainier oedd y teyrn oedd ar ei orsedd am y cyfnod hiraf yn Ewrop a'r ail yn y byd i Bhumibol Adulyadej, brenin Gwlad Tai.[1][7]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Cornwell, Rupert (7 Ebrill 2005). Obituary: Prince Rainier III of Monaco. The Independent. Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.
  2. (Saesneg) Barker, Dennis (6 Ebrill 2005). Obituary: Prince Rainier of Monaco. The Guardian. Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.
  3. (Saesneg) Holley, Joe (6 Ebrill 2005). Prince Rainier of Monaco, 81, Dies. The Washington Post. Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.
  4. (Saesneg) Severo, Richard (6 Ebrill 2005). Prince Rainier of Monaco Dies at 81. The New York Times. Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.
  5. (Saesneg) Obituary: Prince Rainier III of Monaco. The Daily Telegraph (7 Ebrill 2005). Adalwyd ar 12 Mawrth 2013. "In New York in 1983 he earned the sobriquet "Rocky" Rainier on account of his penchant for throwing punches at photographers who snapped him with various escorts. [...] Even though the remarkable economic growth which Rainier had brought to Monaco tailed off in the later 1990s, he had certainly been one of the more successful princes of Monaco."
  6. (Saesneg) Obituary: Prince Rainier III. BBC (6 Ebrill 2005). Adalwyd ar 12 Mawrth 2013. "he used his contacts and business acumen to improve modern light industry and develop his country as a tourist resort tax-haven for the wealthy, and a fashionable centre for business conventions. [...] If the obsession of the world's gossip columns with the eventful private lives of his daughters Caroline and Stephanie hurt him, the Prince never showed it in public. His dignity did much to preserve his family's image. Prince Rainier leaves his son, Prince Albert, a principality that may face uncertain times ahead economically, but a throne which is secure in the affections of his people."
  7. (Saesneg) Monaco's Prince Rainier Dead At 81. CBS. Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.

Rainier III, tywysog Monaco

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne