Raphael Holinshed | |
---|---|
Ganwyd | 1529 Lloegr |
Bu farw | 1580, 1573 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | llenor, hanesydd |
Adnabyddus am | Holinshed's Chronicles |
Croniclydd o Loegr oedd Raphael Holinshed (tua 1525 – tua 1580) sydd yn nodedig am ei hanesion o Loegr, yr Alban, ac Iwerddon a elwir Holinshed's Chronicles, a fyddai'n gloddfa o ddeunydd hanesyddol i Shakespeare a llenorion eraill yr oes.
Hannodd ei deulu o Swydd Gaer, mae'n debyg, ac yn ôl yr hynafiaethydd Anthony Wood, gweinidog ydoedd. Ymsefydlodd yn Llundain ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Elisabeth, oddeutu 1560, a fe'i huriwyd fel cyfieithydd gan yr argraffwr Reginald Wolfe. Bwriadai Wolfe gyhoeddi gwaith hanes cyffredinol, ac yn sgil ei farwolaeth ym 1573 aeth Holinshed ati i gyfyngu ar destun arfaethedig y cywaith a chynllunio cyfres o groniclau o Brydain ac Iwerddon.
Cyhoeddwyd y Chronicles of England, Scotlande, and Irelande mewn dwy gyfrol ym 1577, wedi ei gyflawni gan Holinshed gyda chymorth awduron eraill. Dyma'r hanes di-dor, ac awdurdodol, cyntaf o Loegr yn iaith y werin.[1] Ysgrifennodd Holinshed The Historie of England ar ben ei hunan. William Harrison yw awdur The Description of England, a bu'r Description of Ireland yn gyfraniad o Richard Stanyhurst ac Edmund Campion. Cyfieithiadau ac addasiadau yw'r History of Ireland, History of Scotland, a Description of Scotland. Cafodd rhannau o'r History of Ireland eu sensro gan y Cyfrin Gyngor.
Ailargraffwyd y Chronicles, gyda diweddariad, ym 1587 dan olygyddiaeth John Hooker (ffugenw: Vowell), gyda rhannau gwleidyddol sensitif unwaith eto wedi eu dileu.[1] Dyma'r argraffiad poblogaidd a ddefnyddiwyd yn fynych gan William Shakespeare, Edmund Spenser, Samuel Daniel, a Christopher Marlowe. Hon oedd un o brif ffynonellau Shakespeare ar gyfer Macbeth, King Lear, a Cymbeline, a nifer o'i ddramâu hanes am frenhinoedd Lloegr.