Y Reconquista (Sbaeneg a Phortiwgaleg am "Ail-goncwest") yw'r enw a roddir ar y cyfnod o 750 mlynedd pan ad-enillodd y Cristionogion y rhannau o Benrhyn Iberia oedd wedi dod dan lywodraeth Islamaidd fel rhan o Al-Ándalus (Arabeg الأندلس, al-andalus).
Cipiwyd Hispania oddi wrth y Fisigothiaid gan yr Umayyad yn gynnar yn yr 8g. Dechreuodd y Reconquista bron yn syth gyda Brwydr Covadonga yn 722, ond dim ond yn araf yr enillwyd tir gan y Cristionogion yn y cyfnod cynnar. Y ffigwr enwocaf yn y brwydrau hyn oedd El Cid (Rodrigo Díaz) yn yr 11g. Cyflymodd y broses yn y 13g ar ôl uno teyrnasoedd Castilla a León dan y brenin Fernando III. Erbyn canol y 13g dim ond Teyrnas Granada oedd yn parhau yn eiddo'r Mwslimiaid.
Daeth y Reconquista i ben ar 2 Ionawr 1492, pan ildiodd Granada i'r Cristionogion. Alltudiwyd y brenin olaf, Abu 'abd Allah Muhammad XII.