Rhanbarth

Term daearyddol yw rhanbarth a ddefnyddir mewn sawl ffordd yng ngwahanol ganghennau daearyddiaeth. Yn gyffredinol, mae rhanbarth yn ardal o faint canolig o dir neu ddyfroedd sy'n llai na'r brif ardal o ddiddordeb (e.e. y Ddaear, gwlad, basn afon sylweddol, cadwyn mynydd, a.y.y.b.) ond yn fwy ei maint na lleoliad neilltuol (e.e. dinas neu sir). Gellid ystyried rhanbarth fel casgliad o unedau llai (e.e. "siroedd Gogledd Cymru") neu fel un rhan o uned fwy (e.e. "Gogledd Cymru fel un o rhanbarthau Cymru").

Defnyddir rhanbarthau fel un o unedau sylfaenol daearyddiaeth. Gellir diffinio rhanbarth yn ôl ei nodweddion tirlunol (e.e. ardal o anialdir), dynol (yn cynnwys ethnigrwydd, iaith, diwylliant a hanes, e.e. Y Fro Gymraeg) neu weithredol (e.e. Coridor yr M4, ardal twristiaeth, a.y.y.b.).


Rhanbarth

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne