Rheilffordd Dyffryn Conwy

Gorsaf Gogledd Llanrwst
Gorsaf Blaenau Ffestiniog

Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn rheilffordd yng nghalon gogledd Cymru. Mae'n rhedeg rhwng Llandudno trwy Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog. Yn wreiddiol roedd hi'n rhan Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin, a chafodd ei hagor fesul rhan hyd 1879. Mae'n rheilffordd trac unigol rhwng y Gyffordd a Blaenau Ffestiniog sy'n cynnwys twnnel rheilffordd trac unigol hiraf gwledydd Prydain (dros 2½ milltir / 4.22 km), rhwng Dyffryn Lledr a'r Blaenau. Rhwng y Gyffordd a Llandudno mae'n defnyddio trac dwbl Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.

Y bwriad wrth agor y rheilffordd oedd dwyn llechi o chwareli Stiniog i gei Degannwy. Agorwyd y rhan gyntaf, o'r Gyffordd i Lanrwst, yn 1863. Cyrhaeddwyd Betws-y-Coed yn 1868.

Rhedir y rheilffordd heddiw gan Trafnidiaeth Cymru. Mae'r golygfeydd bendigedig yn ei gwneud yn atyniad twristaidd pwysig yn yr haf ond mae hi'n parhau i fod yn wasanaeth hanfodol i bobl leol yn ogystal. Mae llifogydd Afon Conwy yn amharu ar y rheilffordd yn rheolaidd ac yn bygwth dyfodol y lein.


Rheilffordd Dyffryn Conwy

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne