Trên Rhif 4 Edward Thomas yn aros yng Ngorsaf Tywyn, Ebrill 2005 | |
Ardal leol | Cymru |
Terminws | Gorsaf reilffordd Tywyn (Harbwr) |
Gweithgaredd masnachol | |
Enw | Rheilffordd Talyllyn |
Maint gwreiddiol | 2 tr 3 modf (686 mm) |
Yr hyn a gadwyd | |
Gweithredir gan | Cwmni Rheilffordd Talyllyn (Talyllyn Railway Company), cefnogir gan Gymdeithas Gadwraeth Rheilffordd Talyllyn |
Gorsafoedd | 7 a 5 arhosiad |
Hyd | 7.25 milltir (11.67 km) |
Maint 'gauge' | 2 tr 3 modf (686 mm) |
Hanes (diwydiannol) | |
1865 | Dyrchafiad brenhinol |
1866 | Agorwyd |
1911 | Gwerthwyd i Henry Haydn Jones |
1946 | Y chwarel yn cau |
Hanes (Cadwraeth) | |
1951 | Y Gymdeithas Gadwraeth yn cymryd drosodd |
1976 | Agor Estyniad Nant Gwernol |
2001 | Dathlu 50 mlynedd o Gadwraeth |
2005 | Gorsaf ac amgueddfa newydd yn Nhywyn |
2011 | Dathlu 60 mlynedd o Gadwraeth |
Mae Rheilffordd Talyllyn yn rheilffordd cledrau cul 2.3 troedfedd (686mm) sy'n rhedeg am 7.25 milltir neu 11.67 km rhwng Tywyn a Nant Gwernol, ym Meirionnydd, Gwynedd, ger pentre Abergynolwyn. Roedd gynt yn gwasanaethu chwareli llechi Bryn Eglwys, a hon oedd y rheilffordd ager gul, gyntaf a gafodd drwydded i gludo teithwyr, gan Ddeddf y Senedd yng Ngorffennaf 1865.
Penodwyd James Swinton Spooner (mab James Spooner a brawd i Charles Easton Spooner, sy wedi gweithio ar Reilffordd Ffestiniog) yn beirianydd i'r rheilffordd, gan deulu McConnel, perchnogion chwareli Bryn Eglwys.[1]
Ar y dechrau doedd dim ond dwy orsaf: ym Mhendre ac Abergynolwyn. Yna adeiladwyd gorsafoedd Rhydyronen, Brynglas a Dolgoch. Mae amserlen 1867 yn cyfeirio at 'Orsaf King' yn Nhywyn, lle roedd llechi a theithwyr yn cael eu trosglwyddo i Reilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru, a elwid yn ddiweddarach yn 'Rheilffordd y Cambrian'. Enwyd Gorsaf King ar ôl cynberchennog. Erbyn 1911, arddangoswyd yr orsaf yn Amserlen Bradshaw gydag enw Saesneg newydd, 'Towyn (Wharf)', a ddefnyddir hyd at heddiw.
Ar ddiwedd y 19g, dirywiad yn y farchnad llechi, defnyddiwyd y rheilfordd i gludo twristiaid. Gwerthwyd y chwareli a chyfran reolaethol yn y rheilffordd i Syr Henry Haydn Jones, Aelod Seneddol i Sir Feirionydd.[1] Daeth y chwarel i ben yn 1946, ac ni chafodd y rheilfordd ei gwladoli yn 1947. Ers 1951, mae cymdeithas frwdfrydig yn rheoli Rheilffordd Talyllyn.