Math o gyfrwng | cangen economaidd, proses, disgyblaeth academaidd, safety |
---|---|
Math | cynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol, ynni a pheirianneg amgylcheddol |
Rhan o | European waste hierarchy |
Yn cynnwys | waste minimisation, waste reuse, Ailgylchu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae rheoli gwastraff neu waredu gwastraff yn cynnwys y prosesau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i reoli gwastraff o'i gychwyn hyd at ei waredu'n derfynol.[1] Er enghraifft, gall hyn olygu'r camau rhwng person yn ei gartref yn penderfynu ym mha bin i roi paced gwasg o fisgedi, i'r lori ludw'n cyrraedd, ac yna'n mynd a'r maced i'r ffatri ailgylchu. Gall gynnwys casglu, cludo, trin a gwaredu gwastraff, ynghyd â monitro a rheoleiddio'r broses a'r cyfreithiau sy'n ymwneud â gwastraff, technolegau, a mecanweithiau economaidd.
Gall gwastraff fod yn solet, hylifol, neu nwyon ac mae gan bob math wahanol ddulliau o waredu a rheoli. Ceir pob math o wastraff, gan gynnwys gwastraff diwydiannol, biolegol, cartref, dinesig, organig, biofeddygol, ymbelydrol a gall gwastraff fod yn fygythiad i iechyd pobl.[2] Mae materion iechyd yn gysylltiedig drwy'r holl broses o reoli gwastraff. Gall materion iechyd godi hefyd yn uniongyrchol neu;n anuniongyrchol: yn uniongyrchol trwy drin gwastraff solet, ac yn anuniongyrchol trwy yfed dŵr, pridd a bwyd.
Cynhyrchir gwastraff gan[3] weithgaredd dynol, er enghraifft, echdynnu a phrosesu deunyddiau crai o'r Ddaear.[4] Bwriad rheoli gwastraff yw lleihau effeithiau andwyol y gwastraff ar iechyd dynol, yr amgylchedd, adnoddau/r blanedac estheteg.
Felly, nod rheoli gwastraff yw lleihau effeithiau peryglus ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl a;r ecosystemau byw. Mae'r rhan fawr o reoli gwastraff yn ymwneud â gwastraff solet trefol, sy'n cael ei greu gan weithgarwch diwydiannol, masnachol a chartref.
Nid yw arferion rheoli gwastraff yn unffurf ymhlith gwledydd (cenhedloedd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu); gall rhanbarthau (ardaloedd trefol a gwledig), a sectorau preswyl a diwydiannol i gyd ddefnyddio dulliau gwahanol.[5]
Mae rheoli gwastraff yn briodol yn bwysig ar gyfer adeiladu dinasoedd cynaliadwy y gellir byw ynddynt, ond mae'n parhau i fod yn her i lawer o wledydd a dinasoedd sy'n datblygu. Canfu adroddiad fod rheoli gwastraff yn effeithiol yn gymharol ddrud, fel arfer yn cynnwys 20%-50% o gyllidebau dinesig. Mae gweithredu'r gwasanaeth dinesig hanfodol hwn yn gofyn am systemau integredig sy'n effeithlon, yn gynaliadwy ac yn cael eu cefnogi'n gymdeithasol.[6] Mae cyfran fawr o arferion rheoli gwastraff yn ymdrin â gwastraff solet dinesig (municipal solid waste (MSW)) sef y rhan fwyaf o'r gwastraff a grëir gan weithgarwch domestig, diwydiannol a masnachol.[7]
Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC), disgwylir i wastraff solat dinesig gyrraedd tua 3.4 Gt erbyn 2050; fodd bynnag, gall polisïau a deddfu leihau faint o wastraff a gynhyrchir mewn gwahanol ardaloedd a dinasoedd drwy'r byd.[8] Mae mesurau rheoli gwastraff yn cynnwys mesurau ar gyfer mecanweithiau techno-economaidd integredig[9] o economi gylchol, cyfleusterau gwaredu effeithiol, rheoli allforio a mewnforio[10][11] a dyluniad cynaliadwy gorau posibl y cynnyrch a gynhyrchir.
Yn yr adolygiad systematig cyntaf o'r dystiolaeth wyddonol ynghylch gwastraff byd-eang, ei reolaeth a'i effaith ar iechyd a bywyd dynol, daeth awduron i'r casgliad nad yw tua pedwerydd o'r holl wastraff trefol solat yn cael ei gasglu a bod pedwerydd arall yn cael ei gamreoli ar ôl ei gasglu, yn aml yn cael eu llosgi mewn tanau agored heb eu rheoli – sef bron i biliwn o dunelli’r flwyddyn o’u cyfuno. Canfuwyd hefyd yn y 2020au nad oedd gan bob un o'r meysydd blaenoriaeth "sylfaen ymchwil o ansawdd uchel", yn rhannol oherwydd absenoldeb "cyllid ymchwil sylweddol", y mae gwyddonwyr brwdfrydig ei angen yn aml.[12][13] Mae gwastraff electronig (e-wastraff) yn cynnwys monitorau cyfrifiaduron wedi'u taflu, mamfyrddau, ffonau symudol a gwefrwyr, cryno ddisgiau (CDs), clustffonau, setiau teledu, cyflyrwyr aer (air conditioners) ac oergelloedd. Yn ôl y Monitor E-wastraff Byd-eang 2017, roedd India'n cynhyrchu ~ 2 filiwn tunnell (Mte) o e-wastraff yn flynyddol ac yn bumed ymhlith y gwledydd cynhyrchu e-wastraff, ar ôl yr Unol Daleithiau, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Japan a'r Almaen.[14]