Rhodri Mawr | |
---|---|
Ganwyd | c. 820 Ynys Manaw |
Bu farw | 878 Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn, gwron |
Swydd | Teyrnas Gwynedd, Teyrnas Powys, Teyrnas Ceredigion |
Tad | Merfyn Frych |
Mam | Nest ferch Cadell |
Priod | Angharad ferch Meurig |
Plant | Anarawd ap Rhodri, Cadell ap Rhodri, Merfyn ap Rhodri, Tudwal Gloff |
Llinach | teulu brenhinol Gwynedd |
Rhodri ap Merfyn neu Rhodri Mawr (c. 820–877) fel yr adnabuwyd ef yn ddiweddarach, oedd y brenin cyntaf i reoli'r rhan fwyaf o Gymru a'r cyntaf hefyd i gael ei alw'n "Fawr".[1]
Rhoddwyd y teitl hwn iddo oherwydd ei fod yn perthyn i genhedlaeth o reolwyr a oedd wedi ceisio creu (ac wedi llwyddo i greu) undod gwleidyddol yn eu gwledydd eu hunain. Roedd cyfoedion iddo, fel Siarlymaen (fr:Charlemagne) a’r Brenin Alffred, neu Alffred Fawr, wedi llwyddo i greu ymdeimlad o genedligrwydd ymhlith eu pobloedd eu hunain yn Ffrainc ac yn Lloegr.[2] Yn yr un modd, roedd Rhodri wedi uno prif deyrnasoedd Cymru o dan ei arweinyddiaeth, sef Gwynedd, Powys a'r Deheubarth (a oedd yn cynnwys Seisyllwg) ac wedi cyfarwyddo’r Cymry gyda’r syniad o uno o dan un arweinydd yn hytrach na pharhau i fod yn glytwaith o deyrnasoedd bychan.
Daeth yn Frenin Gwynedd yn 844 ar farwolaeth ei dad, Merfyn Frych, yn rheolwr Powys yn 855 a Seisyllwg yn 871. Roedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru, gyda’i deyrnas yn ymestyn o Ynys Môn i Benrhyn Gŵyr.[3]