Math | tref ar y ffin, abolished municipality in Italy, cyrchfan i dwristiaid, metropolis, y ddinas fwyaf, tref goleg, dinas fawr, cymuned, national capital |
---|---|
Poblogaeth | 2,748,109 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Roberto Gualtieri |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Paris, Kraków, Johannesburg, Cincinnati, Douala, Marbella, Bwrdeistref Achacachi, Tokyo, Sevilla, Benevento, Seoul, Contrada della Lupa, Plovdiv, Kyiv, Washington, Brasília, Beijing, Dinas Mecsico |
Nawddsant | Sant Pedr, yr Apostol Paul |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Fetropolitan Rhufain |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 1,287.36 km² |
Uwch y môr | 21 metr |
Gerllaw | Afon Tiber, Aniene, Môr Tirrenia |
Cyfesurynnau | 41.8931°N 12.4828°E |
Cod post | 00118–00199 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Rhufain |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Rhufain |
Pennaeth y Llywodraeth | Roberto Gualtieri |
Sefydlwydwyd gan | Romulus, Remus |
Prifddinas yr Eidal yw Rhufain ( ynganiad : Roma yn Eidaleg a Lladin). Saif yng ngorllewin canolbarth yr Eidal ar lan Afon Tiber tua 30 km o lan Môr Tirrenia. Lleolir Dinas y Fatican, sef sedd y Pab a'r Eglwys Gatholig Rufeinig mewn clofan yng nghanol y ddinas; hi yw gwlad leia'r byd[1]. Mae gan y brifddinas boblogaeth o dros 2,748,109 (1 Ionawr 2023)[2] ac arwynebedd o 1,285 km2 (496.1 mi sg).[3] Y brifddinas ehangach, neu 'Rhufain Fwayf', a elwir hefyd yn 'Rhufain Fetropolitan', gyda'i phoblogaeth o tua 4,227,059 (Ionawr 2023)[4], yw dinas fetroploitan fwyaf yn yr Eidal; cafodd ei sefydlu fel uned weinyddol ar 1 Ionawr 2015. Ceir 20 o ardaloedd gweinyddol yn yr Eidal, a saif Rhufain o fewn ardal Lazio. Yn y 2020au dinas Rhufain oedd y drydedd ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd yn ôl poblogaeth o fewn terfynau dinasoedd.
Fe'i galwyd gyntaf yn "Ddinas Dragwyddol" (Lladin: Urbs Aeterna; Eidaleg: La Città Eterna) gan y bardd Rhufeinig Tibullus yn 1g CC, a defnyddiwyd yr enw hefyd gan Ovid, Virgil, a Livy. Gelwir Rhufain hefyd yn "Caput Mundi" (Prifddinas y Byd).[5] Yn ystod ei hanes hir bu Rhufain yn brifddinas ar y Deyrnas Rufeinig, y Weriniaeth Rufeinig, a'r Ymerodraeth Rufeinig.[6][7]
Yn ôl y chwedl sefydlwyd y dref gan Romulus, gefaill Remus ar 21 Ebrill, 753 C.C., a laddodd ei frawd Remus yn ddiweddarach. Y dyddiad hwn yw sylfaen y Calendr Rhufeinig a Chalendr Iŵl (Ab urbe condita). Roedd Romulus a Remus yn blant i'r duw Mawrth a chawsant eu magu gan fleiddast (yn Eidaleg, La Lupa Capitolina).[8]
Sefydlwyd Rhufain ar Fryn yr Haul (sef Bryn Palatîn), a ehangwyd i gynnwys Saith Bryn Rhufain: Bryn Palatîn, Bryn Aventîn, Bryn Capitolîn, Bryn Quirinal, Bryn Viminal, Bryn Esquilîn a Bryn Caelian. Enwyd y rhain ar ôl y lleuad, Mercher, Gwener, Mawrth, Iau a Sadwrn.
Mae amffitheatr y Colosseum a theml y Pantheon ymhlith adeiladau enwocaf y ddinas. Daw'r Circus Maximus a'r Domus Aurea, plasty'r ymerawdwr Nero, hefyd o gyfnod yr Ymerodraeth. Ceir nifer o symbolau o ddinas Rhufain, gan gynnwys yr Eryr Ymerodrol, Y Fleiddast Gapitolinaidd a'r llythrennau SPQR, sydd yn sefyll am senatus populusque Romanus (senedd a phobl Rhufain), i'w gweld ledled y ddinas hyd heddiw.