Rhydlys brych

Rhydlys brych
Marsupella sphacelata

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Gymnomitriaceae
Genws: Marsupella
Rhywogaeth: M. sphacelata
Enw deuenwol
Marsupella sphacelata

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Rhydlys brych (enw gwyddonol: Marsupella sphacelata; enw Saesneg: speckled rustwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Ystyr y gair 'brych' yn y cyd-destun hwn yw 'gydag ysmotiau', fel yn y gair 'brech'.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn dau le yng Ngwynedd, ac mae hefyd yn brin iawn yng Nghernyw, Lloegr ac Iwerddon; yn yr Alban, mae'n eitha cyffredin.

Mae M. sphacelata yn tyfu mewn matiau eithaf rhydd, weithiau ar eu cyllell, ond yn amlach yn llorwedd, yn amrywio o ran lliw o frown-gwyrdd i frown tywyll neu bron yn ddu, gyda rhai planhigion o welyau eira yn felynfrown gydag ymylon cras. Mae'r egin yn 0.5–3 mm o led, a gallant dyfu i 8 cm o hyd.[1]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 23 Hydref 2019.

Rhydlys brych

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne