Enghraifft o'r canlynol | rhyfel cartref |
---|---|
Dyddiad | 1 Ebrill 1939 |
Rhan o | Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd |
Dechreuwyd | 18 Gorffennaf 1936 |
Daeth i ben | 1 Ebrill 1939 |
Rhagflaenwyd gan | Spanish coup of July 1936 |
Lleoliad | Penrhyn Iberia |
Yn cynnwys | 1936 Mondragón massacre |
Lleoliad yr archif | Thomas Fisher Rare Book Library |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ystyrir Rhyfel Cartref Sbaen (17 Gorffennaf 1936 - 1 Ebrill 1939) yn fath o ragarweiniad i'r Ail Ryfel Byd, gan iddo roi cyfle i'r Almaen, Yr Eidal a'r Undeb Sofietaidd brofi eu harfau.
Ar y 12 Gorffennaf 1936, llofruddiwyd un o wyr y chwith, José Castillo gan y Ffalangiaid. Y diwrnod wedyn dialodd y chwith am hyn trwy ladd José Calvo Sotelo, arweinydd yr wrthblaid. Yn dilyn hyn ceisiodd grŵp o swyddogion y fyddin gipio grym.
Y prif arweinwyr ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd José Sanjurjo, Emilio Mola a Francisco Franco. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o Bortiwgal i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Ar yr ochr arall, Arlywydd y Weriniaeth am y rhan fwyaf o'r rhyfel oedd Manuel Azaña, rhyddfrydwr gwrth-glerigol. Yr arweinwyr eraill oedd Francisco Largo Caballero ac yna o fis Mai 1937 ymlaen Juan Negrín, y ddau yn sosialwyr.
Cynlluniwyd ymdrech swyddogion y fyddin ym Morocco. Ar fore 17 Gorffennaf dechreuasant trwy gipio Melilla. Llwyddasant i gipio rhan o Sbaen yn syth (gweler y map) ond llwyddodd y llywodraeth i ffurfio grwpiau milisia i ymladd trostynt. Roedd y grwpiau yma yn cynnwys sosialwyr, comiwnyddion ac anarchwyr ymhlith eraill. Cyfeirir at y grwpiau oedd yn ymladd dros y llywodraeth fel y Gweriniaethwyr. Cyfeirir at y grwpiau adain-dde oedd yn cefnogi ymdrech Franco a'i gyd-swyddogion fel y Cenedlaetholwyr, ac roedd y rhain yn cynnwys y Ffalangiaid ac eraill.