Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,495, 4,167 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,160.81 ha |
Cyfesurynnau | 51.4043°N 3.4133°W |
Cod SYG | W04000668 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Kanishka Narayan (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Sain Tathan (Saesneg: St Athan). Saif ar Afon Ddawan, heb fod ymhell o'r arfordir ac i'r dwyrain o Lanilltud Fawr. Yn Chwefror 2016 cyhoeddodd Aston Martin eu bwriad i greu ffatri cynhyrchu ceir a fyddai'n cyflogi oddeutu mil o swyddi.
Enwir y pentref ar ôl y santes Tathan, oedd yn ôl Iolo Morgannwg yn ferch i frenin Gwent. Cysegrwyd eglwys y pentref iddi.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[2]
Gerllaw'r pentref mae canolfan filwrol MOD St Athan, gynt RAF St Athan. Bwriedir adeiladu academi filwrol yma, gan ddechrau yn 2009.