Saith Rhyfeddod Cymru

Rhigwm Saesneg gan awdur anhysbys yw Saith Rhyfeddod Cymru (Saesneg: The Seven Wonders of Wales). Credir i'r pennill gael ei llunio ddiwedd y 18g neu'n gynnar yn y ganrif ganlynol. Mae'r awdur yn anhysbys, ond mae'n debyg iddo gael ei lunio naill ai gan ymwelydd ar adeg pan oedd teithio yng Nghymru - yn arbennig yn y gogledd - yn dechrau dod yn boblogaidd neu gan rywun lleol fel ymateb i hynny. Gan fod y "rhyfeddodau" i gyd yn gorwedd yn y gogledd-ddwyrain, ac eithrio'r Wyddfa, gellid tybio mai brodor o'r ardal honno oedd yr awdur. Pwy bynnag ydoedd, ymddengys nad oedd yn hoff o bobl ar yr Wyddfa: cyfeirir at "Snowdon's mountain without its people" yn yr ail linell.

Dyma'r rhyfeddodau:


Saith Rhyfeddod Cymru

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne