Salman | |||||
---|---|---|---|---|---|
Brenin Sawdi Arabia 'Ceidwad y Ddau Fosg' | |||||
Brenin Sawdi Arabia | |||||
23 Ionawr 2015 – presennol | |||||
23 Ionawr 2015 | |||||
Rhagflaenydd | Abdullah | ||||
Etifedd eglur | Muqrin | ||||
Ganwyd | Riyadh, Sawdi Arabia | 31 Rhagfyr 1935||||
| |||||
Teulu | Teulu'r Saud | ||||
Tad | Abdulaziz of Saudi Arabia | ||||
Mam | Hassa Al Sudairi | ||||
Crefydd | Sunni Islam |
Salman bin Abdulaziz Al Saud (Arabeg: سلمان ابن عبدالعزيز آل سعود, Salmān bin ʿAbd al-ʿAzīz ʾĀl Saʿūd [salˈmaːn bin ʕabdulʕaˈziːz ʔaːl saˈʕuːd]; ganwyd 31 Rhagfyr 1935) yw Brenin Sawdi Arabia, 'Ceidwad y Ddau Fosg' a phenteulu'r Sawdiaid. Bu'n Weinidog dros Amddiffyn ers 2011 ac yn Llywodraethwr Rhanbarth Riyadh rhwng 1963 a 2011. Cafodd ei orseddu ar 23 Ionawr 2015 yn dilyn marwolaeth ei hanner brawd, Abdullah.[1][2] Roedd yn frawd llawn i'r Brenin Fadh a fu'n ben ar y wlad rhwng 1982 a 2005.