Sara Ashton | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Priod | Gai Toms |
Perthnasau | Caradog Jones |
Awdur o Gapel Curig yw Sara Ashton.
Mae Sara yn gweithio i Brosiect y Dref Werdd, sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd ym Mlaenau Ffestiniog a'r ardal.
Yn 2010 cyhoeddwyd y cyfrol Mari Wyn sy'n darlunio Blaenau Ffestiniog ymhen 30 mlynedd trwy lygad merch ifanc. Mae ei bywyd yn llawn helbulon a byd 2029 yn llawn her.[1]