Y Sassaniaid oedd y llinach fu'n rheoli Ymerodraeth Persia (Iran heddiw) o'r 3g hyd y 7g.
Yn 226 cipiodd Ardashir y brifddinas Ctesiphon, gan roi diwedd ar Ymerodraeth y Parthiaid a sefydlu Ymerodraeth Bersaidd dan linach y Sassaniaid, a barhaodd hyd y flwyddyn 651.