Reino de España | |
Arwyddair | Plus Ultra |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, teyrnas, gwlad, un o wledydd môr y canoldir |
Enwyd ar ôl | Hispania |
Prifddinas | Madrid |
Poblogaeth | 47,415,750 |
Sefydlwyd | 9 Mehefin 1715 (ffiniau presennol) 19 Mawrth 1812 Cyfansoddiad 1af |
Anthem | Marcha Real |
Pennaeth llywodraeth | Pedro Sánchez |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2, UTC+00:00, UTC+01:00, Europe/Madrid |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Pyreneau'r Canoldir, Ardal Economeg Ewropeaidd |
Arwynebedd | 505,990 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Y Môr Canoldir, Môr Cantabria, Môr Alboran |
Yn ffinio gyda | Andorra, Portiwgal, Moroco, Ffrainc, Gibraltar |
Cyfesurynnau | 40.2°N 3.5°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Sbaen |
Corff deddfwriaethol | Cortes Generales |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Sbaen |
Pennaeth y wladwriaeth | Felipe VI |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Sbaen |
Pennaeth y Llywodraeth | Pedro Sánchez |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,427,381 million, $1,397,509 million |
CMC y pen | $29,993 |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 16 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.27 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.905 |
Gwlad yn ne-orllewin Ewrop yw Teyrnas Sbaen neu Sbaen (Sbaeneg: Reino de España neu España). Mae'n rhannu gorynys Iberia gyda Gibraltar a Phortiwgal, ac mae'n ffinio â Ffrainc ac Andorra yn y gogledd. Madrid yw'r brifddinas. Poblogaeth Sbaen, yn y Cyfrifiad diwethaf oedd 47,415,750 (2021)[1].
Felipe VI yw brenin Sbaen ac yn 2021 anfonodd un o'i ferched, Leonor (g. 2005) i Goleg yr Iwerydd, ger Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, Cymru.[2] Mae sawl Cymuned Ymreolaethol, gan gynnwys Gwlad y Basg, Galisia, Asturias, a Catalwnia yn cyfri eu hunain yn wledydd, ac mae ganddynt fudiadau cryf sy'n hawlio eu hannibyniaeth oddi wrth Sbaen.
Mae ei diriogaethau ynysig yn cynnwys yr Ynysoedd Balearig yn y Môr Canoldir, sawl ynys fach ym Môr Alboran a'r Ynysoedd Dedwydd yng Nghefnfor yr Iwerydd. Mae tiriogaeth Sbaen hefyd yn cynnwys cyn-ranbarthau Affrica: Ceuta, Melilla a Peñon de Vélez ar draws Culfor Gibraltar.[3] Mae'r Môr Canoldir yn ffinio â thir mawr y wlad i'r de a'r dwyrain; i'r gogledd gan Ffrainc, Andorra a Bae Bizkaia; ac i'r gorllewin gan Bortiwgal a Chefnfor yr Iwerydd.
Gydag arwynebedd o 505,990 km sg (195,360 mi sg), Sbaen yw'r wlad fwyaf yn Ne Ewrop, y wlad ail-fwyaf yng Ngorllewin Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd, a'r bedwaredd wlad fwyaf yn ôl ardal ar gyfandir Ewrop. Yn 2020 hi hefyd oedd chweched wlad fwyaf poblog Ewrop, a'r bedwaredd wlad fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd. Ymhlith yr ardaloedd trefol mawr eraill mae Barcelona, Valencia, Seville, Zaragoza, Málaga, Murcia, Palma de Mallorca, Las Palmas de Gran Canaria a Bilbao.
Cyrhaeddodd bodau dynol modern Benrhyn Iberia gyntaf tua 42,000 o flynyddoedd yn ôl.[4] Y diwylliannau a'r bobloedd gyntaf a ddatblygodd yn nhiriogaeth gyfredol Sbaen oedd yr Iberiaid hynafol, y Celtiaid, y Celtiberiaid, y Vascones, a'r Turdetani. Yn ddiweddarach, datblygodd pobloedd Môr y Canoldir tramor fel y Ffeniciaid a'r Groegiaid hynafol gytrefi masnachu arfordirol, ac roedd y Carthaginiaid yn rheoli rhan o arfordir Môr y Canoldir Sbaen am gyfnod byr. O'r flwyddyn 218 BCE, cychwynnodd gwladychu Rhufeinig Hispania a gan eithrio cornis yr Iwerydd, fe wnaethant reoli tiriogaeth Sbaen yn eitha sydyn. Erbyn 206 roedd y Rhufeiniaid wedi gyrru'r Carthaginiaid allan o benrhyn Iberia, a'i rannu'n ddwy dalaith weinyddol, Hispania Ulterior a Hispania Citerior.[5][6] Gosododd y Rhufeiniaid seiliau ar gyfer diwylliant a hunaniaeth fodern Sbaen, a dyma fan geni ymerawdwyr Rhufeinig pwysig fel Trajan, Hadrian a Theodosius I.
Arhosodd Sbaen o dan lywodraeth Rufeinig nes cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn y bedwaredd ganrif, a arweiniodd at gydffederasiynau llwythol Germanaidd o Ganolbarth a Gogledd Ewrop. Yn ystod y cyfnod hwn, rhannwyd Sbaen rhwng gwahanol bwerau Germanaidd, gan gynnwys y Suevi, yr Alans, y Fandaliaid a'r Fisigothiaid, gyda'r olaf yn cynnal cynghrair â Rhufain, tra bod rhan o Dde Sbaen yn perthyn i'r Ymerodraeth Fysantaidd. Erbyn y 5g daeth y Fisigothiaid i'r amlwg fel y garfan amlycaf, gyda'r Deyrnas Fisigothig yn rhychwantu mwyafrif helaeth o Benrhyn Iberia, a sefydlu ei phrifddinas yn yr hyn sydd bellach yn ddinas Toledo. Cafodd y deddfau Liber Iudiciorum gan y Brenin Recceswinth yn ystod y cyfnod hwn ddylanwad mawr ar seiliau strwythurol a chyfreithiol Sbaen a goroesiad y Gyfraith Rufeinig ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig.