Senedd Rhufain (Lladin: Senatus, o'r gair senex "hynafwr", felly yn llythrennol "Cyngor yr Hynafwyr") oedd prif gyngor gwladwriaethol y Rhufain hynafol. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan Romulus. Gellir dosbarthu ei hanes yn ddwy ran, yn fras. Yn ystod y Weriniaeth Rufeinig, o 509 CC ymlaen, roedd y rhan fwyaf o'i haelodau'n gyn-farnwyr. Ei rôl pennaf oedd cynghori barnwyr ond roedd yn ddylanwadol iawn mewn materion fel polisi tramor, cyllid a chrefydd. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig daeth aelodaeth o'r Senedd yn swydd etifeddol yn bennaf a'i phrif ddyletswydd oedd cadarnhau penderfyniadau ymherodrol. Roedd y Senedd yn parhau i gyfarfod ar ôl cwymp yr ymerodraeth yn y gorllewin (476), hyd at hanner olaf y chweched ganrif.
Rhufain hynafol | |
---|---|
Teyrnas Rhufain | Gweriniaeth Rhufain | Yr Ymerodraeth Rufeinig | Senedd Rhufain | Conswl Rhufeinig |