Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Seville city |
Cysylltir gyda | Llwybr Ewropeaidd E1 |
Poblogaeth | 684,025 |
Pennaeth llywodraeth | Juan Espadas Cejas |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Angers, Baler, Tarija, Barcelona, Buenos Aires, Columbus, Guadalajara, La Habana, Dinas Kansas, Rabat, Tifariti, Dinas Ho Chi Minh, Kraków, Cartagena, Colombia, Caltanissetta, Rhufain, Jerez de la Frontera, Dinas Kansas, Popayán, Isla Cristina, Berlin, Iquique, Rostov-ar-Ddon |
Nawddsant | Fernando III, brenin Castilia |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | notary district of Seville, Q107553430, Comarca Metropolitana de Sevilla |
Lleoliad | Comarca Metropolitana de Sevilla |
Sir | Talaith Sevilla, Kingdom of Seville |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 140.8 km² |
Uwch y môr | 18 metr |
Gerllaw | Canal de Alfonso XIII, Afon Guadalquivir |
Yn ffinio gyda | Alcalá de Guadaíra, La Algaba, Camas, Carmona, Dos Hermanas, Gelves, La Rinconada, Salteras, San Juan de Aznalfarache, Santiponce, Tomares, Palomares del Río |
Cyfesurynnau | 37.3886°N 5.9956°W |
Cod post | 41000–41099 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Seville |
Pennaeth y Llywodraeth | Juan Espadas Cejas |
Prif ddinas artistaidd, diwyllianol ac ariannol de Sbaen yw Sevilla (neu Seville). Saif ar lannau Afon Guadalquivir. Mae'n brifddinas cymuned ymreolaethol Andalucía a Sevilla. Gelwir dinesyddion y ddinas yn Sevillanos (benywaidd: Sevillanas). Mae gan yr ardal ddinesig boblogaeth o 704,154 (amcanfyfrif 2005), neu 1,043,000 yn cynnwys ei bwrdeistrefi mewnol (amcangyfrif 2000), neu 1,317,098 am yr ardal fetropolitaidd gyfan (amcangyfrif 2005), sy'n ei gwneud yr ardal fetropolitaidd bedwaredd yn Sbaen. Mae ganddi borthladd eithaf pwysig ar y Guadalquivir sy'n agored i longau cefnfor.
Bu'n ddinas bwysig yn nhalaith Rufeinig Hispania Baetica a daeth yn ganolfan ddiwylliannol flodeuog yng nghyfnod teyrnas Mwraidd Al-Andalus (711–1248). Un o'i llenorion enwocaf yn y cyfnod hwnnw oedd y bardd Ibn Sahl. Erbyn yr 16g roedd Sevilla yn un o borthladdoedd pwysicaf Sbaen gyda monopoli ar y fasnach rhwng y wlad honno a'r Indies Gorllewinol. Ganwyd y peintwyr Velázquez a Murillo yno.
Mae gan y ddinas brifysgol, a sefydlwyd yn 1502, ac un o'r eglwysi cadeiriol mwyaf yn y byd (1401 - 1591). Un o uchafbwyntiau calendr diwyllianol y ddinas yw'r Ŵyl Basg enwog. Mae Eglwys Gadeiriol Sevilla, yr Alcázar a'r Archivo de Indias yn Safle Treftadaeth y Byd.