![]() | |
Math | Taleithiau Tiwnisia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Sfax ![]() |
Poblogaeth | 955,421 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | CET ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,545 km² ![]() |
Uwch y môr | 121 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 34.73°N 10.77°E ![]() |
Cod post | 30xx ![]() |
TN-61 ![]() | |
![]() | |
Un o daleithiau (gouvernourat) Tiwnisia yw Sfax. Fe'i lleolir yng nghanolbarth y wlad, ar lan Môr y Canoldir. Dinas Sfax, ail ddinas Tiwnisia ac un o ganolfannau masnach mwyaf y wlad, yw ei phrifddinas.
Dominyddir daearyddiaeth y dalaith gan yr ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr, a enwir y Sahel. Mae'n enwog am ei holewydd.
Ar hyd yr arfordir ceir y prif drefi a dinasoedd, sy'n cynnwys Sfax ei hun, Mahrès a Skhira. Cyferbyn â dinas Sfax ceir Ynysoedd Kerkennah.
Mae'r GN1, prif draffordd y wlad, yn cysylltu Sfax a'r brifddinas Tiwnis i'r gogledd a threfi a dinasoedd y de. Ceir rheilffordd hefyd, sy'n cysylltu Sfax ac El Jem, Hammamet a Thiwnis.