Siasbar Tudur | |
---|---|
Siasbar; ffenestr yng Nghastell Caerdydd. | |
Ganwyd | c. 1431 Swydd Hertford |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1495 Castell Thornbury |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person milwrol |
Swydd | Arglwydd Raglaw yr Iwerddon |
Tad | Owain Tudur |
Mam | Catrin o Valois |
Priod | Catherine Woodville, duges Buckingham |
Plant | Helen Tudor |
Llinach | Tuduriaid Penmynydd |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Uchelwr Cymreig oedd Siasbar Tudur (Tachwedd 1431–21 Rhagfyr 1495); roedd yn Iarll Penfro a Dug Bedford, yn hanner brawd i Harri VI, brenin Lloegr ac yn ewythr i Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr). Gyda'i frawd hŷn Edmwnd Tudur (tua 1430–1456), tad Harri Tudur, yr oedd Siasbar yn un o bum plentyn Owain Tudur ac yn ddisgynnydd uniongyrchol i Ednyfed Fychan (m. 1246), distain (canghellor) pwerus Llywelyn Fawr. Caterin o Valois oedd ei fam: merch brenin Siarl VI o Ffrainc a gweddw Harri V, brenin Lloegr. I bob pwrpas Siasbar oedd yn rheoli de-orllewin Cymru o'i gadarnle yng Nghastell Penfro. Bu ganddo ran allweddol yn Rhyfeloedd y Rhosynnau fel prif gynrychiolydd y Lancastriaid yng Nghymru ac yn ymgyrchoedd ei nai, a wnaed yn ward iddo, i ennill coron Lloegr.
Erbyn 1460 roedd Siasbar mewn sefyllfa mor gryf nid yn unig yn y de-orllewin ond mewn rhannau eraill o'r wlad trwy'r swyddi niferus yr oedd wedi ennill i'w hun fel ei fod bron yn rheoli'r wlad.
Ar ôl i'r Iorciaid drechu'r Lancastriaid ym Mrwydr Croes Mortimer (1461), bu Siasbar yn alltud, yn yr Alban a Ffrainc, ond yn dilyn Brwydr Tewkesbury ym Mai 1471 dihangodd gyda Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Francis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Buont yn Llydaw rhwng 1471 a 1484 cyn i'r ddau ddychwelyd i Benfro gyda milwyr arfog a chychwyn ar eu gorymdaith drwy Gymru a arweiniodd i Frwydr Maes Bosworth.