Math o gyfrwng | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dod i'r brig | 2004 |
Genre | roc indie |
Band o Gaerdydd yw Sibrydion, yn wreiddiol o'r Waunfawr, a ffurfiwyd gan y brodyr Osian a Meilir Gwynedd, gynt o'r band Big Leaves. Perfformiodd y grwp yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004[1]. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, JigCal (2005), gan y ddau frawd, a Dan "Fflos" Lawrence ar label Rasal, a recordwyd yn Stiwdio Nen, Caerdydd.
Fe fu'r band yn llwyddiannus iawn ers rhyddhau JigCal, gan ennill albwm gorau 2006 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru, a dewiswyd y gân 'Dafad Ddu' fel cerddoriaeth deitlau rhaglen Bandit ar S4C.
Erbyn 2007, ehangodd y band ymhellach, ac erbyn hyn mae pum aelod yn y band: Meilir Gwynedd (Llais, Gitâr Flaen), Osian Gwynedd (allweddellau), Dan Lawrence (Gitâr), Rhys Roberts (Bas) sydd hefyd yn aelod o Anweledig, a Dafydd Nant (drymiau) sydd hefyd yn aelod o Bob. Rhyddhawyd eu hail albwm, Simsalabim yng Ngorffennaf 2007, ar label Copa.
Daeth eu trydydd halbwm, Campfire Classics allan yn ystod Gwanwyn 2009. Dyma'u cynnyrch cyntaf yn Saesneg. Cafodd adolygiadau ffafriol yn y wasg Brydeinig, gan gael ei henwi'n Albwm yr Wythnos yn The Times.[2]