![]() | |
Enghraifft o: | cynhwysyn bwyd, crude drug, herbal medicinal product ![]() |
---|---|
Math | sbeis ![]() |
Deunydd | rhisgl ![]() |
Rhan o | Turkish cuisine, Catalan cuisine ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC ![]() |
Cynnyrch | Cinnamon ![]() |
![]() |
Mae sinamon yn sbeis a geir o risgl mewnol sawl rhywogaeth o goed o'r genws Cinnamomum. Mae'r sinamon mwyaf cyffredin yn dod o'r goeden Asiaidd, Cinnamomum verum, ac iddi risgl persawrus, sbeis a geir o’r rhisgl hwn yw sinamon (ceir hefyd sinamwn). Defnyddir yr enw canel hefyd yn y Gymraeg sy'n debyg i'r enw mewn nifer o ieithoedd Romáwns.[1][2] Defnyddir y gair sinamon yn ffigurol i ddisgrifio'r lliw melynfrown.[3]
Mae ei flas yn felys ac mae ganddo arogl dwys iawn. Mae'n dod yn wreiddiol o Sri Lanka, er ei fod bellach yn cael ei drin hefyd yn Ne America ac India'r Gorllewin.[4]