Sinematograffydd

Sinematograffydd
Enghraifft o'r canlynolyr alwediagaeth o greu ffilmiau, teitl awdurdodol, galwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathgweithredydd camera, arlunydd, gwneuthurwr ffilm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y sinematograffydd, y ffotogyfarwyddwr neu'r cyfarwyddwr ffotograffi (Saesneg: director of photography, a dalfyrrir weithiau i DP neu DOP) yw'r person sy'n gyfrifol am y broses o recordio ffilm, cynhyrchiad teledu, fideo neu fformat debyg. Y sinematograffydd yw pennaeth y criwiau camera a golau sy'n gweithio ar brosiectau o'r fath ac fel arfer mae'n gyfrifol am wneud penderfyniadau artistig a thechnegol yn ymwneud â'r ddelwedd, y llun e.e. dewis y math o gamera, y stoc ffilm, lensys, hidlwyr, ac ati. Cyfeirir at y gwaith ymarferol a'r astudiaeth o'r maes hwn fel Sinematograffeg.

Criw camera yn paratoi ar gyfer golygfeydd i gael eu ffilmio ar fwrdd llong ar gyfer y ffilmStealth gyda chriw y cludwr awyrennau Nimitz-class USS Abraham Lincoln (CVN-72).

Mae'r sinematograffydd yn atebol i'r cyfarwyddwr ffilm, gyda'r dasg o ddal golygfa yn unol â gweledigaeth y cyfarwyddwr. Gall y berthynas rhwng y sinematograffydd a'r cyfarwyddwr ffilm yn amrywio. Mewn rhai achosion, bydd y cyfarwyddwr yn caniatáu annibyniaeth lwyr i'r sinematograffydd, ond mewn achosion eraill, nid yw'r cyfarwyddwr yn caniatáu fawr o ryddid, hyd yn oed gan fynd mor bell â nodi union leoliad y camera a'r dewis o lensys. Mae lefel o gyfranogiad o'r fath yn llai cyffredin pan fydd y cyfarwyddwr a'r sinematograffydd wedi wedi cydweithio â'i gilydd yn y gorffennol. Fel arfer bydd y cyfarwyddwr yn cyfleu i'r sinematograffydd yr hyn sydd ei eisiau o olygfa yn weledol ac yn caniatáu i'r sinematograffydd fynd ati i gael yr effaith honno.

Trosglwyddir y delweddau a recordiwyd gan y sinematograffydd i'r golygydd ffilm i'w golygu .

Roedd sinematograffi yn allweddol yn ystod oes y ffilmiau mud; heb unrhyw sain ar wahân i gerddoriaeth gefndirol a dim deialog, roedd y ffilmiau'n dibynnu ar oleuo, actio, a set.

Ffurfiwyd Cymdeithas Sinematograffwyr America (ASC) ym 1919 yn Hollywood, a hi oedd y gymdeithas gyntaf o sinematograffwyr. Ffurfiwyd cymdeithasau cyffelyb mewn gwledydd eraill hefyd. Mae eu hamcanion yn cynnwys cydnabod cyfraniad y sinematograffydd i gelfyddyd a gwyddor creu lluniau symudol.[1]

  1. The ASC Vision Committee

Sinematograffydd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne