Sombreros yn y Glaw

Clawr yr albwm 'Sombreros Yn Y Glaw' gan Anweledig

Sombreros yn y Glaw oedd albwm cyntaf y band Cymraeg Anweledig. Cafodd ei recordio yn Stiwdio Sain Llandwrog a'i ryddhau yn 1998 dan label recordiau Crai. Mae'n cynnwys 12 o draciau a dau ail-gymysgiad, sef 'Eistedd Dub Mix' o'r gân 'Eisteddfod' a Llwybr Llaethog Mix' o 'Chwarae Dy Gem'. Cafodd clawr yr albwm ei ddylunio gan Dylan Thomas ac Emyr Thomas.


Sombreros yn y Glaw

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne