Sputnik 2, a lawnsiwyd ar 3 Tachwedd 1957, oedd y lloeren gyntaf i gynnwys anifail, sef y ci Laika. Lansiwyd y lloeren gan yr Undeb Sofietaidd. Bu farw Laika ar ôl ychydig oriau, ond profodd y prosiect ei bod hi'n bosib i anifail oroesi yn y gofod am beth amser.