Math o gyfrwng | lloeren artiffisial o'r Ddaear |
---|---|
Màs | 83.6 cilogram |
Gwlad | Rwsia |
Rhan o | rhaglen Sbwtnig |
Dechreuwyd | 4 Hydref 1957 |
Daeth i ben | 5 Ionawr 1958 |
Olynwyd gan | Sputnik 2 |
Gweithredwr | Yr Undeb Sofietaidd |
Gwneuthurwr | S.P. Korolev Rocket a Space Corporation Energia |
Echreiddiad orbital | 0.05201 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lloeren Ddaearol artiffisial gyntaf dynoliaeth oedd Sputnik I (a gyfieithir o'r Rwsieg fel 'Lloeren 1') . Fe'i lansiwyd i gylchdro isel o'r Ddaear mewn taith eliptig gan yr Undeb Sofietaidd ar 4 Hydref 1957 fel rhan o'r rhaglen ofod Sofietaidd. Anfonodd signal radio yn ôl i'r Ddaear am dair wythnos cyn i'r tri batri arian-sinc ddod i ben. Disgynnodd yn ôl i'r atmosffer yn naturiol ar 4 Ionawr 1958. Gwnaed yr arsylwad cyntaf ohoni, o'r Ddaear, yn arsyllfa seryddol Rodewisch (Sacsoni).[1]
Roedd y lloeren yn sffêr metal caboledig 58 cm (23 modfedd) mewn diamedr gyda phedwar antena radio allanol i ddarlledu dros y radio. Roedd yn hawdd i weithredwyr radio amatur ganfod ei signal radio, [2] a gwnaeth y gogwydd orbitol 65° i'w lwybr hedfan orchuddio bron yr holl Ddaear.
Ni ragwelwyd llwyddiant y lloeren gan yr Unol Daleithiau. Achosodd hyn argyfwng Sputnik America a sbarduno'r Ras Ofod, rhan o'r Rhyfel Oer. Roedd y lansiad yn ddechrau cyfnod newydd o ddatblygiadau gwleidyddol, milwrol, technolegol a gwyddonol.[3]
Gair Rwsieg yw sputnik am loeren o'i ddehongli mewn cyd-destun seryddol;[4] ei ystyron eraill, o ran tarddiad y gair yw cydymaith teithio.[5][6]
Roedd tracio ac astudio Sputnik 1 o'r Ddaear yn rhoi gwybodaeth werthfawr i seryddwyrr. Gellid cyfrifo dwysedd yr atmosffer uchaf o sut a faint yr oedd y lloeren yn llusgo, yn arafu ar yr orbit, a rhoddodd lledaeniad ei signalau radio ddata gwerthfawr am yr ionosffer.
Lansiwyd Sputnik 1 o Safle Rhif 1/5, yn 5ed amrediad Tyuratam, yn Kazakh SSR (a elwir bellach yn Gosmodrome Baikonur). Teithiodd y lloeren ar gyflymder uchaf o tua 8 km/eiliad (18,000 milltir yr awr), gan gymryd 96.20 munud i gwblhau un cylchdro o'r Ddaear. Roedd yn trawsyrru ar donfedd o 20.005 a 40.002 MHz,[7] a gafodd eu monitro gan weithredwyr radio ledled y byd. Parhaodd y signalau am 22 diwrnod nes disbyddu batris y trosglwyddydd ar 26 Hydref 1957. Ar 4 Ionawr 1958, ar ôl tri mis mewn orbit, llosgodd Sputnik 1 wrth ddychwelyd i atmosffer y Ddaear, ar ôl cwblhau 1,440 cylchdro o'r Ddaear,[8] a theithio pellter o tua 70,000,000 km (43,000,000 mi).[9]