Stephen Hawking

Stephen Hawking
Ganwyd8 Ionawr 1942 Edit this on Wikidata
Rhydychen, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Man preswylLloegr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
AddysgBaglor yn y Celfyddydau, doethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Dennis W. Sciama Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd damcaniaethol, cosmolegydd, astroffisegydd, mathemategydd, addysgwr, awdur gwyddonol, academydd, llenor, ffisegydd, awdur ffeithiol, seryddwr, actor teledu, hunangofiannydd, awdur ffuglen wyddonol, Trekkie, gwyddonydd Edit this on Wikidata
SwyddAthro Lucasiaidd mewn Mathemateg Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amA Brief History of Time, Black Holes and Baby Universes and Other Essays, The Universe in a Nutshell, On the Shoulders of Giants, God Created the Integers, The Dreams That Stuff Is Made of: The Most Astounding Papers of Quantum Physics and How They Shook the Scientific World, My Brief History Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDikran Tahta, Paul Dirac, Bertrand Russell, Karl Popper, Andrei Linde, Yakov Zeldovich, Albert Einstein Edit this on Wikidata
Mudiadanffyddiaeth Edit this on Wikidata
TadFrank Hawking Edit this on Wikidata
MamIsobel Eileen Hawking Edit this on Wikidata
PriodJane Wilde Hawking, Elaine Mason Edit this on Wikidata
PlantLucy Hawking, Robert Hawking, Tim Hawking Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Albert Einstein, Gwobr Ffiseg Wolfe, Medal Copley, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Special Breakthrough Prize in Fundamental Physics, Cydymaith Anrhydeddus, Medal Eddington, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, CBE, Gwobr Naylor, Medal Oskar Klein, Medal Hughes, Gwobr Llyfrau Gwyddoniaeth y Gymdeithas Frenhinol, Medal Albert, Gwobr Michelson–Morley, Gwobr Fonseca, Medal Pïws XI, Medal a Gwobr Maxwell, IOP Dirac Medal, Gwobr Adams, Gwobr Andrew Gemant, Medal Deucanmlwyddiant James Smithson, NSS Robert A. Heinlein Memorial Award, Gwobr Tywysoges Asturias am Heddwch, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Urdd Marcel Grossmann, Medal Franklin, Gwobr Sefydliad 'Frontiers of Knowledge' BBVA, Medal Bodley, Gold medal of the Spanish National Research Council, Gwobr Albert Einstein, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA), Doethor Anrhydeddus Prifysgol Princeton, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, Gwobr Dannie Heinema am Ffiseg Fathemategol, Gwobr Lilienfeld, Gwobrau Tywysoges Asturias, Gwobr Ffiseg Sylfaenol, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Member of the National Academy of Sciences of the United States, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Urdd Cymdeithion Anrhydedd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://hawking.org.uk Edit this on Wikidata
Tîm/auUniversity College Boat Club Edit this on Wikidata
llofnod

Ffisegwr damcaniaethol, cosmolegydd ac awdur llyfrau ar seryddiaeth a gwyddoniaeth o Loegr oedd Stephen William Hawking CH, CBE, FRS, FRSA (8 Ionawr 194214 Mawrth 2018)[1][2]; awdur y gyfrol ddylanwadol A Brief History of Time (1988). Mae damcaniaeth y tyllau duon yn ddyledus i'w waith mathemategol arloesol yn ogystal â'r gwaith a wnaeth ar y cyd â Robert Penrose ar ddisgyrchiant fel rhan o waith ehangach ar ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol a mecaneg cwantwm.

Cafodd ddiagnosis o glefyd motor niwron o fath ALS pan oedd yn 21 oed, yn 1963. Nid oedd disgwyl iddo fyw mwy na dwy flynedd. Gwaethygodd y symptomau dros y ddegawd ac er ei fod yn benderfynol o fyw bywyd annibynnol, fe'i berswadiwyd i ddefnyddio cadair olwyn erbyn diwedd y 1960au. Yn yr 1980au daliodd niwmonia ac yn y driniaeth cafodd driniaeth traceotomi a ddinistriodd yr hyn oedd yn weddill o'i lais. Yn 1986 dechreuodd ddefnyddio rhaglen gyfrifiadur "Equalizer" o Walter Woltosz, prif weithredwr Words Plus. Roedd yn gallu gwasgu botwm i ddewis geiriau o'r sgrîn er mwyn adeiladu brawddegau a fyddai yn cael ei lleisio gan syntheseinydd llais. Dros amser daeth y llais electronig amrwd gyda'r acen Americanaidd yn gysylltiedig â Hawking. Er fod lleisiau eraill a gwell wedi eu datblygu dros y blynyddoedd, cadwodd y llais gwreiddiol am ei fod yn uniaethu ag e.

Fe'i ganwyd yn Rhydychen. Yn 1950 pan benodwyd ei dad yn brif ymchwilydd National Institute for Medical Research, symudodd y teulu i St Albans, Swydd Hertford ble'r aeth i'r ysgol leol[3]. Priododd ddwywaith ac roedd ganddo dri o blant.

  1. Larsen 2005, tt. xiii, 2.
  2. Ferguson 2011, t. 21.
  3. Ferguson 2011, t. 22.

Stephen Hawking

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne