Dyfais symudol, electronig yw'r tabled cyfrifiadurol, neu'n syml: tabled neu llechen. Mae'n defnyddio system weithredu (OS) symudol (fel y ffôn llaw) a sgrin gyffwrdd LCD a batri gwefrol (ailwefradwy) mewn un pecyn tenau, fflat. Gall faint y tabled amrywio, ond ar gyfartaledd maent yn 18 cm (7 modfedd) yn groesgornel, gyda gallu wi-fi yn unig, ar wahân i'r tabledi drytaf sydd a chysylltiad cellog i'r we.[1][2][3]
Mae'r tabled yn fath o gyfrifiadur, ond gyda llai o fewnbwn / allbwn oherwydd ei faint (e.e. dim cysylltiad USB); defnyddir stylws, pensil neu fysedd i fforio o gwmpas y sgrin yn hytrach na'r llygoden arferol. Gellir hefyd ei reoli gydag ystumiau e.e. symudiadau'r dwylo neu'r llaw, neu gydag chyfarwyddiadau lleisiol. Mae rhan fwyaf o'r dyfeisiau yma yn defnyddio rhith-fysellfwrdd ar y sgrîn, ond gellir cysylltu un real drwy Bluetooth diwifr, os oes angen.
Lansiwyd un o'r tabledi cyntaf, sef yr iPad gan Apple Inc. yn 2010,[4] a daeth yn boblogaidd iawn dros nos. Cyrhaeddwyd anterth y gwerthiant yng nghanol y ddegawd honno, gyda'r prisiau rhwng chwarter a hanner y gliniadur.[5][6][7][8]